Neidio at y cynnwys

S4C
Close
Flash is required to view this video

Antur y Gorllewin

Antur y Gorllewin

Antur y Gorllewin

Iolo a pherlau natur gorllewin Ewrop

Mae Iolo Williams ar daith drwy orllewin Ewrop yn y gyfres newydd Antur y Gorllewin sy'n dechrau ar S4C nos Fercher, 11 Ionawr.

Yn y gyfres chwe rhan, bydd y daith yn ein tywys o ynysoedd Yr Asores i Wlad yr Iâ gan ymweld â Phortiwgal, Sbaen, Ffrainc, Llydaw, Ynysoedd y Sianel, Cernyw, Iwerddon, arfordir gorllewinol Yr Alban, Ynysoedd Heledd, Ynysoedd Orch, ac Ynysoedd y Ffaröe.

Oriel

  • Antur y Gorllewin
  • Antur y Gorllewin
  • Antur y Gorllewin
  • Antur y Gorllewin
  • Antur y Gorllewin
  • Antur y Gorllewin
  • Antur y Gorllewin
  • Antur y Gorllewin
  • Antur y Gorllewin

Dyma rai o ardaloedd mwyaf gwyllt ac anghysbell gorllewin Ewrop, ac mae pob lleoliad yn cynnwys perlau natur: rhai sydd o dan fygythiad ac eraill yn diflannu'n gyflym oherwydd effaith pobl a'r hinsawdd. Ond mae gobaith hefyd wrth i ni weld ambell berl natur yn cael eu hailgyflwyno i'r gwyllt.

Mae'r daith yn cychwyn yng nghanol Môr yr Iwerydd. Yno, mae Iolo yn nofio gyda siarcod, morgathod adeiniog, a baracwdaid.

Meddai Iolo, sydd yn arbenigwr ym myd natur, "Dwi wrth fy modd yn gwneud gweithgareddau fel hyn - dwi'n mwynhau deifio, dringo, ogofa, a dwi mor lwcus fy mod yn gwneud hyn i gyd a mwy yn y gyfres wych yma. "Da' ni'n mynd i brofi arfordiroedd trawiadol. Da' ni'n mynd i deithio trwy wlypdiroedd anferth; dringo mynyddoedd; crwydro trwy goedwigoedd; gweld ogofau anhygoel; a dod wyneb yn wyneb â bywyd rhyfeddol o dan y môr.

"Mae hi'n gyfres mor ddiddorol gan ein bod yn mynd i ynysoedd ac ardaloedd sydd o fewn tafliad carreg i Brydain, ond sydd â chymaint o amrywiaeth yn eu bywyd gwyllt. Roedd hi'n brofiad arbennig felly, a bu'n rhaid i mi binsio'n hun ar adegau!"

Trwy gydol y gyfres mae Iolo'n dysgu am natur y dirwedd yn ogystal â'r bywyd gwyllt. Mae hefyd yn cwrdd â naturiaethwyr a nifer o bobl leol sydd yn adnabod yr ardal yn dda.

"Wrth greu rhaglen natur fel hyn, mae hi'n bwysig cwrdd â'r bobl leol oherwydd ry'n ni'n derbyn cymaint o wybodaeth am y llefydd yma wrthyn nhw. Hebddyn nhw ni fyddai'r gyfres yn bodoli - ac mi roedd rhai o'r rhain yn gymeriadau go iawn," ychwanega.

Mae Iolo hefyd yn cael y fraint o nofio gyda morfilod gwyn wrth Ynys Pico yn yr Asores sydd 900 milltir i'r gorllewin o Bortiwgal yng nghanol yr Iwerydd yn y bennod gyntaf oll.

"Roedd hi'n olygfa anhygoel - tri morfil gwyn efo'i gilydd. Nid pawb sy'n cael caniatâd i nofio efo nhw cofiwch, ac roedd hyn yn fraint arbennig i mi," esbonia Iolo.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales