Bydd cyfres newydd yn rhoi cyfle i wylwyr gael cip y tu ôl i'r llenni ar Antur Waunfawr, canolfan arbennig a sefydlwyd dros chwarter ganrif yn ôl i gynnig gwaith i oedolion gydag anableddau dysgu.
Mae'r fenter bellach yn fusnes llwyddiannus sy'n cyflogi dros gant o bobl, a bydd y gyfres dair rhan, Antur Waunfawr, yn cynnig portread sensitif o gymeriadau a gwaith y ganolfan. Ffion Dafis sy'n lleisio'r gyfres.
Sefydlwyd y fenter gymdeithasol yn 1984 gan y diweddar Gwynn Davies er mwyn cynnig gwaith, a chyfle i gyfrannu i gymdeithas, i bobl ag anableddau dysgu. Bellach, Antur Waunfawr yw un o brif gyflogwyr yr ardal, yn cynnig gwaith ar dri safle.
Mae prif safle'r Antur wedi ei leoli yng nghanol pentref Waunfawr ger Caernarfon, ac mae'n cynnwys gerddi a chaffi. Y ddau safle arall yw'r Warws Werdd ar stad ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon, lle mae hen ddodrefn yn cael eu hadnewyddu a'u gwerthu, a Chanolfan Ailgylchu, menter ar y cyd â Chyngor Gwynedd, hefyd ar stad Cibyn, lle mae gweithwyr yr Antur yn gyfrifol am ddidoli'r papur a'r plastig.
Yn y rhaglen gyntaf, cawn gyfarfod nifer o weithwyr yr Antur, gan gynnwys Meical Jones sy'n gweithio fel derbynnydd yn y Swyddfa Weinyddol ac sy'n dilyn cwrs cyfrifiadurol yng Ngholeg Menai; Anwen Fletcher sy'n gweithio yn y caffi ac sydd hefyd yn cynorthwyo gyda gwasanaeth arlwyo allanol yr Antur; Mel Parry sy'n gweithio yn y gerddi ac sy'n arbennig o hoff o adar a choed; a Dafydd Emrys, Lee Williams a Dyfed Hughes, sy'n gweithio yn y Ganolfan Ailgylchu yng Nghaernarfon.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales