Neidio at y cynnwys

S4C

Arian mewn Argyfwng

Arian mewn Argyfwng

Mynd at wraidd y cwymp ariannol

Y credit crunch, gwasgfa ariannol, dirwasgiad… Beth sydd wedi digwydd i ni dros y ddeunaw mis diwethaf? A pham?

Bydd cyfres ddogfen newydd ar S4C yn olrhain hanes y cwymp ariannol sy'n effeithio arnom i gyd. Bydd yn dilyn hynt y dirwasgiad sydd wedi dilyn mewn gwledydd ar draws y byd, ac yn cynnig syniadau newydd ar gyfer rheoli'r economi yn y dyfodol.

Y newyddiadurwr a'r cyflwynydd profiadol o Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, sy'n cyflwyno Arian mewn Argyfwng, ac yn nhair rhaglen y gyfres fe fydd yn ein tywys ar draws y byd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Tsieina a Gwlad yr Iâ.

Bydd rhai o arbenigwyr ariannol mwyaf blaenllaw'r byd yn ymddangos yn y gyfres, gan gynnwys yr economegydd Americanaidd, Robert Solow, a enillodd Wobr Nobel yn 1987 am ei ddadansoddiad o'r twf economaidd, a Robert Reich, a fu'n Ysgrifennydd Llafur i'r Cyn Arlywydd Bill Clinton.

Mae'r arbenigwyr o Gymru sy'n cyfrannu i'r gyfres yn cynnwys Dr Eurfyl ap Gwilym, Dirprwy Gadeirydd Bwrdd y Principality, a Dr Carol Bell, a fu'n gweithio i fanc JP Morgan yn y 90au, ac sy'n arbenigo yn y maes olew.

Hefyd yn cyfrannu bydd Martin Rhisiart o Ysgol Fusnes Prifysgol Morgannwg, Geraint Jones, sy'n hyrwyddo busnesau Cymru yn yr Unol Daleithiau a David Morgan o'r cwmni gwasanaethau ariannol blaenllaw JP Morgan Chase yn Efrog Newydd.

Y Cwmp

Bydd y rhaglen gyntaf, Y Cwymp, yn olrhain hanes y cwymp, ac yn ymchwilio i'r holl ffactorau yn y gadwyn o ddigwyddiadau a esgorodd ar y danchwa fawr ym Medi 2008, pan aeth y banc Lehman Brothers yn fethdalwr.

O ganlyniad i hyn, fe rewodd y llif arian ar draws y byd gan arwain at y credit crunch.

Meddai Wynford Jones, cynhyrchydd a chyfarwyddwr y gyfres, "Bydd Rhun ap Iorwerth yn mynd â ni yn ôl i gwymp Wal Berlin yn yr 80au, gan mai hwn oedd y digwyddiad a roddodd rwydd hynt i'r farchnad rydd ar draws y byd. Mi fydd yn edrych ar y patrwm mawr economaidd, ac yn edrych hefyd ar sut yr ydym ni i gyd wedi cyfrannu at y gyflafan."

Y Boen

Yn yr ail raglen, Y Boen, bydd Rhun yn ymweld â sawl gwlad ar draws y byd i ddeall mwy am effaith y dirwasgiad ar bobl gyffredin, yn ogystal ag edrych ar y sefyllfa yma yng Nghymru. Mae'n teithio i Wlad yr Iâ, ac yn bwrw golwg ar y sefyllfa yn Tsieina lle mae 10 miliwn o bobl allan o waith.

Mae perthynas ddiddorol o gyd-ddibyniaeth newydd rhwng Tsieina a'r Unol Daleithiau.

Meddai Rhun, "Ein dibyniaeth ni ar gredyd oedd wrth wraidd y cyfan. Roedd benthyciadau arian yn cael eu gwthio drwy'r system fel rhyw fath o gyffur. Roedd y cyffur yn ein twyllo ni i gredu fod cyffro yn siopau'r Stryd Fawr yn gyfystyr ag economi iach. Ond ble oedd gofal ac arweiniad y bancwyr a'r rheolwyr? A oedden nhw'n gaeth i'r un cyffur?"

Y Dyfodol

Edrych i'r dyfodol y bydd Rhun yn rhaglen ola'r gyfres, Y Dyfodol, gan gynnig syniadau newydd ar gynnal ein planed.

Fel yr esbonia Wynford, "Mae'r dyddiau hynny o ddibynnu ar olew am ynni rhad yn dod i ben ym marn nifer o arbenigwyr, ac mae'n rhaid rhoi sylw i'r sector adnewyddol - ynni gwyrdd. Mae 'na dwf mawr wedi digwydd yn y sector hwn, yn enwedig yn Tsieina."

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales