Neidio at y cynnwys

S4C

Ar Lafar

Ar Lafar

Dwy gyfres yn dathlu tafodieithoedd Cymru

Fe fydd y bardd a'r cyflwynydd Ifor ap Glyn yn mynd â ni ar daith i bob cwr o Gymru i gofnodi a dathlu cyfoeth tafodieithoedd ein gwlad yn y gyfres Ar Lafar.

Mewn cyfres wyth rhan fe gawn glywed sut mae'r Gymraeg yn cael ei siarad heddiw wrth i Ifor deithio o Wynedd i Went, o Benfro i Bowys ac o'r Rhondda i'r Rhos. Bydd Ifor yn ceisio mynd at lygad y ffynnon, drwy holi pobl yr ardaloedd hynny eu hunain, am eu tafodiaith, ac yn cael hanes a chefndir pellach gan wahanol arbenigwyr.


Noson Ar Lafar

Fe fydd y sioe Noson Ar Lafar yn cael ei darlledu'r un noson; cyfle i glywed mwy o dafodiaith wrth i rai o berfformwyr amlyca'n gwlad gyflwyno darlleniadau hwyliog o'u broydd genedigol. Ar y noson gyntaf, yng Nghlwb Peldroed Caernarfon bydd yr actorion Mari Gwilym a Dewi Rhys yn ein cyflwyno i iaith y Cofi.

Bydd y nosweithiau hyn yn cynnwys ambell i fideo a chân hefyd, llawer ohonynt o archif gyfoethog yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan. Ymwelwn yn ein tro â Cheredigion, yng nghwmni Ryland Teifi ac Elen Pencwm; Ynys Môn gyda J.O. Roberts a Marged Esli; Cwm Tawe gyda Rhian Morgan a Phyl Harris ymhlith eraill.

Gyda'r gyfres Ar Lafar bydd Ifor yn cychwyn ei daith yng Nghaernarfon gyda thafodiaith y Cofi ond mae'r rhaglen gyntaf hefyd yn ei dynnu i Sain Ffagan ac ardal Abergwaun, Sir Benfro.

Iaith y Cofi

Ar ôl mynd ar drywydd hen eiriau sy'n unigryw i Gaernarfon - fel miglo (diflannu), giaman (cath) a slymio (caru) - ac ambell air mwy diweddar fel jaman (cywilydd) bydd yn trafod y busnes o recordio tafodiaith hefo un o weithwyr maes yr Amgueddfa Werin, Roy Saer, ac yn ei sgil bydd yn mynd i Sir Benfro, lle bu Roy'n recordio gynta' nôl yn 1963.

Yn ystod y gyfres, fe fydd Ifor yn ceisio darganfod lle yn union mae'r ffin rhwng acen y de a'r gogledd, ac yn edrych ar dafodieithoedd hynod Sir Benfro, Maldwyn, a Rhosllannerchrugog. Bydd yn gofyn sut dafodiaith oedd pobl yn ei siarad cyn bodolaeth y recordydd tâp? Sut mae'r Saesneg, a'r sustem addysg yn dylanwadu ar ein tafodieithoedd? A beth yw'r dyfodol?

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales