S4C

Close
Flash is required to view this video

Aur Paralympaidd Aled Davies

Aur Paralympaidd Aled Davies

Portread o Bencampwr Paralympaidd

Fe gafodd bywyd athletwr ifanc o Gymru, Aled Siôn Davies ei drawsnewid o fewn ychydig oriau yn ystod Gemau Paralympaidd Llundain wrth iddo droi'n seren fyd-eang.

Bydd y rhaglen Aur Paralympaidd Aled Davies ar S4C nos Iau, 27 Medi yn bortread o'r athletwr Paralympaidd a afaelodd yn nychymyg miliynau o wylwyr wrth ennill yr Aur yng nghystadleuaeth y ddisgen yn y Stadiwm Olympaidd ddechrau Medi.

Bydd Aled, sy'n wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr ond nawr yn byw yng Nghaerdydd, yn sicr o gael ei gofio am ei ddathliadau brwdfrydig ar ôl ennill yn ei Gemau Paralympaidd cyntaf wrth daflu'r ddisgen 46.14 metr.

Ond fel y gwelwn yn y rhaglen, roedd y fedal aur hon, a'r efydd a gafodd yng nghystadleuaeth y taflu pwysau ychydig o ddyddiau yn gynt, yn ganlyniad blynyddoedd o ymarfer caled, penderfyniad haearnaidd, yn ogystal â gallu naturiol.

Fe gafodd Aled ei eni ag anabledd difrifol i'w goes dde sy'n cyfyngu ar faint mae'n gallu symud, wedi arwain at golli esgyrn ac yn golygu nad yw'r cyhyrau a'r gewynnau wedi tyfu'n iawn yn y goes.

Bu'r gyfres Y Ras i Lundain ar S4C yn gynharach eleni yn dilyn paratoadau Aled ar gyfer y Gemau Paralympaidd, ynghyd â pharatoadau nifer o athletwyr eraill Cymru ar gyfer y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Llundain.

Bu camerâu cwmni cynhyrchu Boomerang+ yn dilyn Aled dros gyfnod o 18 mis, wrth iddo wella o anaf difrifol i'w ben-glin.

Roedd y myfyriwr Rheolaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd eisoes wedi ennill medal arian yn y ddisgen ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd y llynedd. Roedd yn amlwg bod ganddo obaith gwirioneddol o ennill medal yn y Gemau Paralympaidd.

Mae'r rhaglen hon yn edrych yn ôl ar ei baratoadau, y profiad o gystadlu ac ennill yn Llundain. Gwelwn hefyd y dathliadau ar ôl y Gemau a oedd yn cynnwys parêd enillwyr yn Llundain a Chaerdydd, a'i uchelgais i gystadlu dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad Glasgow 2014. Mae'n cynnwys cyfweliadau gydag Aled, ei hyfforddwr Anthony Hughes, ei deulu a'i ffrindiau.

Meddai'r uwch gynhyrchydd Matthew Tune, "Rydym wedi rhannu siwrnai fythgofiadwy gydag Aled dros y ddwy flynedd ddiwetha'. Mae wedi bod yn bleser i gael cwmni rhywun sydd wedi aros mor bositif hyd yn oed pan oedd yn wynebu rhwystrau."

Meddai Aled Davies, "Mae wedi bod yn brofiad anhygoel. Dwi mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth dwi wedi ei chael. Ennill yr Aur oedd profiad mwyaf fy mywyd. Pwy sy'n dweud na allwn wireddu'n breuddwydion?"