Ers tair blynedd mae Barri Griffiths o Dremadog, ger Porthmadog, wedi bod yn reslo'n broffesiynol ledled Prydain.
Ond i unrhyw reslar sy'n dymuno cyrraedd brig y maes cystadleuol hwn, rhaid gwneud enw yn America, cyfle sy'n brin i unrhyw reslar. Er hyn, mae Barri wedi arwyddo cytundeb hyfforddi pum mlynedd gyda mudiad reslo mwya'r byd, y WWE, sy'n darlledu i dros bymtheg miliwn o wylwyr bob wythnos.
Cawn weld sut y cafodd Barri y cyfle anhygoel yma a dilyn ei fywyd yn ystod y misoedd wrth iddo baratoi i symud i Tampa Bay, Florida.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales