"Doeddwn i ddim yn clywed beth oedden nhw'n ei ddweud wrtha'i. Roedd yn afreal, yn swreal, doedd o ddim yn digwydd i mi. Roedd o fel bod mewn drama."
Geiriau'r gyn-gyflwynwraig, eicon ffasiwn a therapydd amgen, Heulwen Haf, wrth gofio am y foment ym mis Mai'r llynedd pan ddywedwyd wrthi fod ganddi ganser y fron, a'i fod yn un anarferol a ffyrnig.
Wedi i'r wybodaeth syfrdanol suddo i mewn i'w hymennydd, penderfynodd y byddai'n dda o beth gwneud rhaglen deledu i ddilyn ei thaith trwy ei thriniaeth, gan obeithio y byddai hynny'n rhoi cysur a nerth i unrhyw un oedd yn wynebu'r un profiad â hi.
Canlyniad y penderfyniad hwnnw yw'r rhaglen ddogfen Blodyn Haul: Stori Heulwen Haf sy'n cael ei darlledu ar S4C yr wythnos hon yn ystod mis codi ymwybyddiaeth am ganser y fron.Yn y rhaglen rydym yn dilyn Heulwen bob cam o'r ffordd, ac yn rhannu'r crio yn ogystal â'r chwerthin.
"Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd am ddigwydd i mi, ond mi wnes i ddweud wrth y criw cynhyrchu, dwi am i chi gario mlaen doed a ddelo er mwyn cloriannu'r cyfan," meddai Heulwen a ddaw o Gorwen yn wreiddiol ond sy'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn.
Bu'r criw yn ei ffilmio dros gyfnod o flwyddyn, a chawn ei dilyn trwy'r triniaethau chemotherapi a radiotherapi, a thrwy'r llawdriniaeth i golli ei bron.
Fel person sy'n ymddiddori mewn therapi amgen, mae Heulwen yn myfyrio bob dydd. Ac yn ystod ei myfyrio mae meddwl am Flodyn Haul wedi bod o gymorth iddi.
"Mi ro'n i'n gweld y Blodyn Haul yn tyfu yn fy mron a'r hadau du oddi fewn y blodyn yn cael eu tynnu allan gan aderyn fel y titw tomos las neu'r humming bird. Ro'n i'n teimlo fod iachâd yn dod, ac mae hynny wedi rhoi nerth aruthrol i mi. Roeddwn yn gwybod y byddai'r Blodyn Haul yn fy nghadw i'n saff."
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales