Mae bwrlwm a chyffro'r Nadolig ar ben am flwyddyn arall ond mewn rhaglen arbennig ar S4C, Nadolig Mewn Bocs Esgidiau, bydd naws yr Ŵyl yn parhau wrth i ni ddathlu ugain mlynedd ers dechrau apêl yr 'Ymgyrch Bocs Esgidiau Nadolig'.
Dechreuodd yr apêl yn Wrecsam ym 1990 yn dilyn y chwyldro yn Rwmania. Penderfynwyd hel anrhegion a danteithion mewn hen focsys esgidiau ar gyfer merched a bechgyn bach a'u hanfon i Rwmania. Erbyn hyn, mae bocsys tebyg yn cael eu hanfon ledled y byd.
Yn y rhaglen, bydd dau o wirfoddolwyr yr apêl, Mair Parry, pensiynwraig o Ynys Môn, a John Thirsk, dylunydd o Gaernarfon, yn ymweld â Rwmania.
Mae Mair wedi bod yn gweithio gyda'r ymgyrch ers 2001. Mae ei phrofiad gyda'r elusen wedi ei sbarduno i wirfoddoli gyda chyrff eraill ac mae bellach wedi teithio i wledydd fel Belarws a Mozambique. Yn y rhaglen hon, bydd Mair yn ail-ymweld â'r man lle'r bu hi ar ddechrau'r degawd i weld sut effaith mae ymdrechion yr elusen wedi cael ar y wlad.
Roedd John yn un o'r gwirfoddolwyr aeth ar y daith gyntaf un i ardal Oradea yn Rwmania. Cawn ei ddilyn wrth iddo ail-droedio'r gorffennol ar ei daith emosiynol.
Meddai John, "Dwi heb fod yn Rwmania ers y daith gyntaf ac rwy'n gynhyrfus am beth i ddisgwyl a sut wahaniaeth sydd i'r lle. Ydi'r plant amddifad gyda theuluoedd eu hun bellach? Beth sydd wedi digwydd iddyn nhw? Wnaethon ni helpu ugain mlynedd yn ôl?"
Byddwn hefyd yn dilyn taith bocsys eleni ar gyfer plant Cluj-Napoca yn Rwmania. Disgyblion Ysgol Llandrygarn ar Ynys Môn fu'n brysur cyn y Nadolig yn llenwi'r bocsys ar gyfer y plant. Bydd cyfle i weld y plant yn derbyn eu bocsys ac i gael sgwrs gyda'r rheiny sydd wedi derbyn bocs yn y gorffennol.
"Mae yna gymaint o gariad yn mynd i mewn i'r bocsys yma ac mae'n brofiad bythgofiadwy cael gweld y pleser a'r boddhad ar wynebau'r plant sy'n eu derbyn. Dwi'n gwybod fedrwn ni byth newid y byd ond fedrwn ni newid bywyd plentyn am gyfnod," ychwanega Mair.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales