Yn rhifyn cyntaf y gyfres newydd o Cefn Gwlad bydd Dai Jones, Llanilar, yn ymweld â Fferm Bodysgawen Isaf yn Llannefydd ger Dinbych, fferm sydd wedi ennill gwobrau dros Gymru a Phrydain am ei phorfa.
Fferm laeth yw Bodysgawen, ac Arthur a Marian Owen a'r teulu sy'n rhedeg y fferm. Mae Alun, brawd Arthur, yn rhedeg y fferm drws nesaf, ac mae'r ddau yn cydweithio'n agos iawn, gan roi help llaw i'r naill a'r llall gyda'r godro.
Bydd Dai yn dod i wybod mwy am eu system ffermio ac yn dysgu sut yr enillodd porfa'r fferm wobr Tir Glas Gorau Cymru fwy nag unwaith, yn ogystal â mynd ymlaen i ennill Cystadleuaeth Tir Glas Prydain Fawr yn 2007.
"Maen nhw'n arbenigo mewn porfa," meddai Dai Jones. "Ond, mae yna hefyd fuches o wartheg godro hyfryd yma."
Bydd Dai yn dysgu am y ffordd mae Arthur yn godro. Mae'r parlwr godro yn dair blwydd oed erbyn hyn, ac mae gan y gwartheg i gyd dag electronig sy'n cael ei ddarllen gan gyfrifiadur wrth iddynt ddod mewn i'r parlwr. Mae hyn yn hwyluso pethau ac yn golygu eu bod yn gallu godro yn gynt.
"Da ni'n trio gwneud pethau mor syml â phosib. Os ydi o'n syml, gall unrhywun ei wneud o. Felly os dwi ffwrdd am benwythnos, fe all rhywun arall gymryd drosodd," meddai Arthur.
"Mae'n bleser i odro rŵan. Mi allwn ni odro 230 o wartheg mewn tua dwy awr, i gymharu ag o'r blaen, pan oedd hi'n cymryd tair awr a hanner i odro 170 o wartheg," ychwanega.
Yn y rhaglenni i ddod, bydd Dai Jones yn ymweld â Phlas Llanerchaeron, yn Sir Aberteifi, lle cafodd yr ail Gystadleuaeth Rhychio Cymru a'r Byd ei chynnal yn gynharach eleni, yng nghwmni'r Prifardd Dic Jones a llond llaw o gymeriadau lleol. Bydd hefyd yn ymweld ag ardal Dolwen ger Abergele i gael hanes un o'r bridfeydd enwocaf ym myd y Merlod Mynydd Cymreig, Bridfa Coed Coch, a chaiff gyfle i redeg trawsgwlad gyda'r milfeddyg, Kate Jones o Aberystwyth.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales