Neidio at y cynnwys

S4C

Bois y Loris

Bois y Loris

Blas ar is-ddiwylliant Bois y Loris

Rhai o gymeriadau mwyaf lliwgar y ffordd fawr fydd sêr rhaglen newydd Bois y Loris. Rhaglen sy'n canolbwyntio ar Gymry'r diwydiant cludo nwyddau.

Bydd gwrandawyr rhaglen radio Geraint Lloyd yn gyfarwydd â chlwb Bois y Loris. Yn y rhaglen ar Radio Cymru mae'r cyflwynydd yn clebran gyda gyrwyr ble bynnag maen nhw ar y lôn ac yn clywed mwy am eu hanesion.

Yn sgil poblogrwydd yr eitem, mae'r awdur a'r cynhyrchydd Owain Llŷr a Gwasg y Lolfa ar fin cyhoeddi llyfr Bois y Loris sy'n ein cyflwyno i fywyd a diwylliant ugain o yrwyr o bob cwr o Gymru. Bydd y rhaglen arbennig Bois y Loris yn mynd tu hwnt i'r llyfr wrth i Owain ddilyn tri gŵr am ddiwrnod yng nghab eu lorïau.

Geraint Lloyd

Y cyflwynydd radio Geraint Lloyd o Geredigion sy'n sôn mwy am hanes bois y loris ac yn egluro o le ddaeth y syniad wrth wraidd yr eitem.

Meddai Geraint, "Mae yna gymaint o Gymry Cymraeg sy'n gweithio yn y diwydiant ledled y byd ac maen nhw'n gymuned yn eu hunain. Erbyn hyn maen nhw'n adnabod ei gilydd trwy'r radio. Mae gan bob un bersonoliaeth liwgar, diddordebau a phrofiadau gwahanol a straeon difyr o'u hamser nhw ar yr heol. Bob wythnos mae'r criw yn dueddol o ddanfon negeseuon i'w gilydd neu dynnu coes drwy'r radio ac mae hynny'n tynnu nhw at ei gilydd."

Y Bois

Bydd Owain a'r camerâu yn dilyn diwrnod ym mywydau Emyr Richards neu 'Emyr Wyau' o Lanwrda, Sir Gaerfyrddin, Dorian Davies o Ystrad Aeron, Ceredigion ac Eifion Jones o Gwmsychbant, Ceredigion wrth eu gwaith yn y rhifyn arbennig ar S4C.

Meddai Owain, "Dyma'n cyfle ni i gael fwy o syniad am fywydau'r gyrwyr. Maen nhw mewn bybl bach eu hunain ac mae yna amrywiaeth ymhlith yr aelodau. Wrth ddilyn y tri, mae'r amrywiaeth yng ngwaith a diwylliant yn amlwg gyda phob un yn cludo nwyddau hollol wahanol ac mae amrywiaeth yn oed y gyrwyr hefyd. Tra bod Emyr yn cludo wyau, roedd Dorian yn cludo coed ac Eifion yn gyrru lori ailgylchu. Mewn ffordd, mae bois y loris yn allweddol i'n ffordd ni o fyw - hebddyn nhw fydd dim byd yn llwyddo i gyrraedd ein siopau."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales