Mae’r Ymgynghorydd Clefydau Rhywiol Dr Olwen Williams yn rhybuddio bod yn rhaid inni ddysgu o’r gorffennol a newid ein hagwedd tuag at y clefydau hyn, “er mwyn newid stori’r dyfodol.”
Mae Dr Olwen, sy’n gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Wrecsam Maelor, yn gwneud ei sylwadau mewn rhaglen ddogfen sy’n olrhain hanes clefydau rhywiol yng Nghymru.
Yn y rhaglen Caru’n Troi’n Chwerw, mae’n sgwrsio â haneswyr ac arbenigwyr eraill yn y maes, ac yn dod i’r casgliad fod y stigma a’r cywilydd wedi goroesi dros y blynyddoedd, a bod angen addysgu ein pobl ifanc heddiw am y sefyllfa.
“Mae un o bob 10 heddiw ymysg pobl ifanc ym Mhrydain yn dioddef o’r haint chlamydia. Mae 'na sôn am epidemig, a dydy Cymru ddim yn eithriad,” meddai.
Ond mae ambell i unigolyn prin dros y canrifoedd wedi cymryd y cam i ddatgelu’n gyhoeddus eu bod yn dioddef o glefyd rhywiol. Fel y darganfyddwn yn y rhaglen, un o’r rhain yw’r bardd Ieuan Gethin, uchelwr a oedd y byw ym Morgannwg yn y Canol Oesoedd.
Fel yr esbonia’r Prifardd Meirion McIntyre Huws, “Mae’n ei ddefnyddio fel testun i ddiddanu. Roedd yn amlwg yn y cyfnod yn rhan o fywyd pob dydd, ac yn effeithio ar bob haen o gymdeithas.”
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales