S4C

Close
Flash is required to view this video

Castell Howell

Castell Howell

Cipolwg ar waith cwmni bwydydd Castell Howell

Cwmni Bwydydd Castell Howell yw un o brif ddosbarthwyr bwyd Cymru. Rydym ni gyd wedi gweld y lorïau ar yr heol ac yn awr maen nhw wedi agor eu drysau i gamerâu S4C.

Mewn tair rhaglen, gan ddechrau nos Lun, 2 Gorffennaf, bydd y gyfres Castell Howell yn rhoi cip y tu ôl i'r llenni o'r cwmni sydd â'i bencadlys yn Cross Hands, Sir Gâr.

O oergelloedd y ganolfan ddosbarthu i swyddfa'r Rheolwr Gyfarwyddwr - byddwn yn dod i adnabod y staff a'r amrywiaeth o waith ym mhob agwedd o'r cwmni.

"Ni'n browd iawn o beth ry'n ni wedi creu a beth ry'n ni wedi sefydlu fel busnes," meddai Martin Jones, mab y perchennog Brian Jones. "Ond dyw e ddim wedi digwydd dros nos. Mae e wedi cymryd 20 mlynedd a mwy."

Cwmni teuluol yw Bwydydd Castell Howell gyda Brian y bos yn rhedeg y cwmni gyda'i gyn-wraig Liz, ac mae eu plant Kathryn a Martin wedi helpu'r cwmni ers yr oedden nhw'n blant.

Dechreuodd y cwmni ym 1985 pan drodd Brian un o sheds ffowls y ffarm yn oergell. Dechrau bychan iawn oedd i'r busnes, gyda Brian yn teithio heolydd yr ardal yn casglu archebion ac yn dychwelyd y diwrnod wedyn gyda'r cynnyrch.

"Buon ni drwy amser caled ofnadwy ar y dechrau, ond daethon ni drwyddo fe," meddai Brian. "Buon ni mewn sawl cornel, ond daethon ni mas ohoni."

Mae Brian yn ychwanegu mai ei agwedd bositif tuag at fusnes sydd wedi dod â nhw drwy'r gwaethaf a bellach mae Bwydydd Castell Howell yn gwmni gyda throsiant o £70 miliwn.

"Os yw'r cyfle yn dod rwy'n cymryd e. Sa' i'n iste nôl a meddwl amdano fe am bythefnos - fi'n mynd amdano," esbonia Brian.

Yn y rhaglen gyntaf, cawn ddod i adnabod y teulu a dysgu am eu rôl nhw yn y busnes. Cawn hefyd gwrdd â rhai o'r cymeriadau eraill ymhlith y staff yn cynnwys John Elias un o yrwyr y fflyd o lorïau. Hefyd cawn ddysgu am waith Edward Morgan, un o werthwyr mwyaf profiadol y cwmni sy'n gyfrifol am hybu bwydydd Cymreig.