Mae cyfle i gwrdd â rhagor o gymeriadau lliwgar Cymru wledig yn y gyfres newydd o Cefn Gwlad sy'n dechrau ar S4C nos Lun, 31 Hydref. Dai Jones, Llanilar sy'n ein tywys ar y daith gan ddechrau ym Mhen Llŷn, ac ardal Efail Newydd, yng nghwmni Gwyndaf Jones, Fferm Tanrallt.
Bu Gwyndaf yn brifathro am bron i ugain mlynedd, a phrifathro oedd ei dad Robert hefyd. Yn wir, mae dysgu yng ngwaed y teulu hwn gan mai athrawes hefyd oedd mam Gwyndaf, a dyma yw galwedigaeth ei ddwy chwaer.
Wedi blynyddoedd o ddysgu mewn ysgolion cynradd, fe benderfynodd Gwyndaf ei fod yn bryd newid byd. Mae'r teulu wedi bod ar Fferm Tanrallt ers tua'r flwyddyn 1850 gyda Gwyndaf nawr yn parhau â'r llinach drwy gymryd gofal o'r fferm gan ei dad.
Ond mae wedi cadw ei gysylltiad â'r byd addysg gan weithio yn rhan amser yn trefnu gwasanaethau arbenigol i blant, ac mi fydd yn gwahodd dosbarthiadau i'r tyddyn yn achlysurol gydag un o adeiladau'r fferm wedi ei addasu'n arbennig ar gyfer gwersi.
"Bob gwanwyn bydd plant ysgolion cynradd lleol yn dod ata i am ddiwrnod. Bydda i'n cynnal rhyw hanner dwsin o weithdai mewn blwyddyn," esbonia Gwyndaf. "Bydda i'n dangos hen offer ffermio iddyn nhw - rhai yn wreiddiol o Danrallt, ac eraill wedi eu casglu o lefydd eraill."
Mae'r gwersi yn rhoi blas i'r plant ar fywyd cefn gwlad, ac mae Gwyndaf wedi llwyddo i ddal dychymyg y disgyblion drwy ddangos yr hen offer yn eu cynefin ar y fferm.
"Mae o'n rhoi rhyw syniad iddyn nhw sut roedd y gorffennol yn wahanol, a sut roedd pobl yn byw mewn cyfnodau hyd at gan mlynedd yn ôl o'i gymharu â heddiw," ychwanega Gwyndaf.
Bydd yr ail bennod yn y gyfres (7 Tachwedd) yn mynd â ni i Aberteifi i gwrdd â Gareth James sy'n rhedeg cwmni contractio amaethyddol prysur iawn. A'r wythnos ganlynol (14 Tachwedd) byddwn ymhlith y prynwyr a'r gwerthwyr ym Mart Bryncir, sir Eifionydd.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales