Neidio at y cynnwys

S4C

Cegin Cofi

Cegin Cofi

Hogia'r Cofi yn mentro i'r gegin er mwyn newid byd

Mae pethau ar fin poethi yn y gegin wrth i rai o ieuenctid stad cyngor yng Nghaernarfon chwilio am ail-gyfleon a gobeithion newydd drwy greu menter gymunedol Cegin Peblig neu Cegin Cofi.

Mewn cyfres dair rhan, dilynwn griw stad Ysgubor Goch wrth iddynt sefydlu cegin symudol fydd yn hyfforddi pobl ifanc i goginio bwydydd iach a gwneud y gorau o'u bywydau.

Syniad Kenny Khan oedd y Gegin yn wreiddiol. Fe oedd perchennog y bwyty, Tafarn y Werin, yn nhref Caernarfon ac mae ganddo brofiad eang o weithio ym maes bwyd ac arlwyo. Mae hefyd yn byw ar y stad ac mae'n ymwybodol o'r problemau yno. Yn fachgen ifanc, roedd Kenny yn byw bywyd tu hwnt i'r gyfraith a threuliodd gyfnod yn y carchar - cefndir tebyg i lawer o hogiau ifanc 'Sgubs' (yr enw lleol ar y stad).

Bwriad Cegin Peblig felly yw defnyddio sgiliau coginio ac ysgol brofiad bywyd Kenny er mwyn gwella ansawdd bwyd ac ansawdd bywyd pobl ifainc yr ardal.

Wrth ddilyn hanes y fan, bydd cyfle i ddod i adnabod yr hogiau sy'n gysylltiedig â'r prosiect, fel Sgaw a Jamie. Mae'r ddau yn benderfynol o dorri arferion bwyta gwael a gwella eu ffordd o fyw - nhw a'u teuluoedd ifanc. Mae gan Sgaw reswm arall i boeni hefyd - cyflwr gwael cartref ei gariad a'i blant ac iechyd gwael ei fab ieuengaf.

Bydd sawl sialens a throeon trwstan ar y ffordd i ddyfodol gwell. Yn yr ail bennod, y gogyddes o Nigeria Maggie Ogunbanwo sy'n cynnig hyfforddiant i Sgaw, Jamie a'r criw yn ei chaffi ym Mhenygroes. Yna, mae'n ras yn erbyn amser i orffen holl waith adnewyddu'r hen fan cyn yr agoriad swyddogol a diwrnod y blasu; a bydd Sgaw yn gwneud penderfyniad fydd yn newid ei fywyd am byth.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales