Neidio at y cynnwys

S4C

CF99

CF99

Côd post unigryw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw CF99 ac o adeilad eiconig y Senedd y daw rhaglen wleidyddol newydd CF99. Bethan Rhys Roberts a Vaughan Roderick sydd wrth y llyw wrth iddyn nhw fwrw golwg bywiog ar bynciau trafod yr wythnos.

Fel un sydd wedi gweithio ar deledu a radio, yn y Gymraeg ac yn Saesneg, mae Bethan Rhys Roberts yn edrych ymlaen yn fawr at gychwyn y rhaglen. Mae ei gwaith fel newyddiadurwraig wedi mynd â hi i Baris, Hong Kong, Sudan, Tseina a Llundain. Nawr mae ganddi gartref newydd ymysg y gwleidyddion.

“Ar hyn o bryd dwi’n gweithio ar Good Morning Wales ar BBC Radio Wales a dwi wedi colli gweithio ar deledu ac yn y Gymraeg. Pan ddaeth yr alwad i weithio ar CF99 ro’n i wrth fy modd gan ei fod yn gyfuniad perffaith i mi.”

Bu Bethan yn gweithio ym maes gwleidyddiaeth cyn hyn hefyd a hi oedd gohebydd gwleidyddol BBC Cymru ac yna BBC World yn San Steffan am 9 mlynedd.

Mae Vaughan yn wyneb ac yn llais cyfarwydd iawn ym maes gwleidyddiaeth. Ef yw cyflwynydd Dau o’r Bae a fydd yn ail gychwyn cyn bo hir ar BBC Radio Cymru ac mae ei flog gwleidyddol ar bbc.co.uk/cymru yn derbyn bron i 3,000 o ymwelwyr yn ddyddiol. Bydd cyfle yn y dyfodol agos i fwynhau ei bodlediad (podcast) wythnosol ar bbc.co.uk/radiocymru pan fydd yn rhoi ei farn ar y straeon a sibrydion o’r Senedd a San Steffan.

Mae Bethan a Vaughan yn cynnig golwg gyfoes a ffres ar wleidyddiaeth ein gwlad gan wahodd gwesteion gwahanol i ymuno â nhw yn fyw ar CF99 i gnoi cil dros ddigwyddiadau’r wythnos.

“Gwleidyddiaeth Cymru fydd yn cael y rhan fwyaf o sylw wrth reswm ond byddwn ni hefyd yn cadw llygad ar wleidyddiaeth San Steffan, Yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Ewrop. Rhaglen gyfoes fydd hon a fydd yn cynnig rhywbeth gwahanol i’r gynulleidfa.”

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales