Bydd y gyfres ddogfen gynhwysfawr hon yn bwrw golwg o'r newydd ar y gelfyddyd, eiconau, defodau, mythau a gwyrthiau sy'n ganolog i'r ffydd Gristnogol ers dros ddwy fil o flynyddoedd.
Dros chwe wythnos bydd y newyddiadurwr arobryn Tweli Griffiths yn ein harwain ar siwrne ddifyr i 11 gwlad yn y gyfres newydd Côd Cristnogaeth.
Yn y rhaglen gyntaf yn y gyfres, sydd yn gyd-gynhyrchiad rhyngwladol wedi ei saethu ar fformat Diffiniad Uchel, fe fydd Tweli yn gofyn 'Pam bod yna gymaint o bwyslais ar gnawd a gwaed yn y ffydd Gristnogol?'
Meddai Tweli, o Langynog, sir Gaerfyrddin, "I geisio ateb y cwestiwn yn y rhaglen gyntaf, fe fues i'n dyst i un o'r digwyddiadau mwyaf rhyfedd a welais yn fy ngyrfa fel gohebydd yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.
"Roedd gweld credinwyr Cristnogol yn Pampanga yn y Philippines yn gwneud yn iawn am eu pechodau trwy gael eu croeshoelio a'u chwipio yn brofiad na fyddaf yn ei anghofio. Roedd y profiad hwn ymhlith profiadau eraill yn ystod y ffilmio yn gwneud imi sylweddoli pa mor ddwfn ac eneidiol yw defosiwn pobol i grefydd fwya'r byd."
Y cwestiynau eraill a godir yn rhaglenni'r gyfres yw: lle yr ydym yn mynd ar ôl inni farw; beth neu bwy yw angylion; beth yw ystyr symbolau; beth yw gwyrthiau ac a oes yna obaith am undod mewn Cristnogaeth?
Mae ei ymchwil yn ei arwain at leoliadau Cristionogol arwyddocaol yng Nghymru a thu hwnt. Mae'r rhain yn cynnwys mynd i Lasynys, Harlech ac i gartre' Ellis Wynne, a ysgrifennodd y clasur llenyddol Gweledigaethau'r Bardd Cwsg sy'n cynnwys portread gafaelgar o uffern.
Ychwanegodd Tweli, "Fel newyddiadurwr, roedd gen i ddiddordeb arbennig yn hanes gwleidyddol y ffydd Gristnogol. Rydyn yn gobeithio y bydd y gyfres yn helpu egluro beth sydd wedi rhannu ac uno Cristnogaeth dros y ddwy fil o flynyddoedd diwethaf."
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales