S4C

Close
Flash is required to view this video

Cymdeithas yr Iaith yn 50 / Gig 50

Cymdeithas yr Iaith yn 50 / Gig 50

Dathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith

Ym 1962, roedd Saunders Lewis wedi rhagweld diwedd y Gymraeg fel 'iaith fyw' erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain. Dros ddegawd mewn i'r ganrif honno, a 50 mlynedd wedi darlith enwog Tynged yr Iaith, mae S4C yn darlledu rhaglen ddogfen arbennig Cymdeithas yr Iaith yn 50 ar hanes y Gymdeithas a'i chyfraniad at hanes Cymru ers y 60au cynnar.

Hefyd bydd dwy raglen fyw ar S4C o'r gyngerdd Gig 50 a gynhelir ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid i ddathlu hanner canmlwyddiant y Gymdeithas a ddaeth i fodolaeth fel ymateb i ddarlith yr hanesydd, bardd, dramodydd ac ymgyrchydd gwleidyddol.

Gwion Lewis, y bargyfreithiwr o Langefni, sy'n arbenigwr ar y gyfraith gyhoeddus, fydd yn cyflwyno'r rhaglen ddogfen gan fwrw golwg ar hanner canrif gyntaf y Gymdeithas a'i chyfraniad at hunaniaeth a diwylliant Cymru. Gwion yw awdur y gyfrol 'Hawl i'r Gymraeg' a gyhoeddwyd yn 2008, cyfrol sy'n gosod yr iaith yng nghyd-destun cyfreithiau rhyngwladol ac Ewropeaidd.

"Mae'n dipyn o gamp i gwmpasu hanes y Gymdeithas yn ei gyfanrwydd. Erbyn hyn, mae sawl cenhedlaeth yng Nghymru, gan gynnwys fy nghenhedlaeth i, nad oedd yn fyw pan oedd y Gymdeithas yn ei hanterth yn y 60au a'r 70au. Mae'r hanner canmlwyddiant yn gyfle i ni ein hatgoffa ein hunain fel cenedl o'r bennod gythryblus hon yn ein hanes," meddai Gwion.

"Yn ogystal â bwrw golwg yn ôl ar y protestio tanbaid, byddwn yn pwyso a mesur yr hyn mae'r Gymdeithas wedi'i gyflawni gan gynnwys ei chyfraniad sylweddol i ddatblygiadau fel arwyddion ffyrdd dwyieithog, sefydlu S4C a sefydlu Llywodraeth Cymru. Wrth wraidd y datblygiadau hyn oll oedd cred y Gymdeithas fod angen dangos mwy o barch at hunaniaeth y Cymry."

"Ond mae llywodraeth Gymreig gryfach ym Mae Caerdydd yn gosod her newydd i'r Gymdeithas yn ei hail hanner canrif," meddai Gwion. "Bellach, mae gennym Senedd o wleidyddion yn trafod sefyllfa'r Gymraeg yn bur aml; mae gennym Gomisiynydd sydd wedi ei hapwyntio i hyrwyddo'r iaith. Pa swyddogaeth sydd yna i'r Gymdeithas yn y darlun newydd hwn? Dyna un o'r cwestiynau y byddwn yn eu gofyn yn y rhaglen."

Ymhlith y rhai fydd yn cyfrannu at y rhaglen mae'r hanesydd Dr John Davies, Dafydd Iwan, Angharad Tomos, cyn-gadeirydd y Gymdeithas, a'r Comisiynydd Iaith ac un arall o gyn-gadeiryddion y Gymdeithas, Meri Huws.

Bydd 50 o fandiau yn perfformio yn y parti mawr dros ddwy noson ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid. Mae'r trefnwyr yn disgrifio'r digwyddiad fel 'y gig Cymraeg mwyaf ers degawdau.' Ymhlith y rhai fydd yn perfformio bydd Gruff Rhys, Gai Toms, Neil Rosser, Meic Stevens, Geraint Lovgreen a'r Enw Da, Yr Ods a Cowbois Rhos Botwnnog.