Neidio at y cynnwys

S4C

Ffeithiol

Wynebau Newydd: Cymro yn yr Abaty

Bydd rhaglen ddogfen ar S4C yn dilyn Deiniol Morgan, Prif Gantor Abaty Westminster, wrth ei waith yn un o adeiladau crefyddol mwyaf eiconig y byd.

Bu camerâu cwmni cynhyrchu Presentable yn dilyn Deiniol yn ystod mis Mawrth 2008 wrth iddo baratoi ar gyfer dau ddigwyddiad pwysig yng nghalendr yr Abaty. Y cyntaf oedd gwasanaeth Gŵyl Ddewi ar gyfer Aelodau Seneddol; a’r ail oedd gwasanaeth y Gymanwlad - achlysur brenhinol lle mae'r Frenhines a Dug Caeredin ymysg y prif westeion.

"Swydd y cantor yn Abaty Westminster yw paratoi’r gwasanaethau," eglura Deiniol. "Mae ’na dair eglwys yma - yr Abaty, Eglwys Marged drws nesa', a Chapel Sant Mair yn y Senedd. Rhyngddynt, mae tua 30 o wasanaethau pob wythnos, felly mae ’na ddigon i’w wneud," ychwanega.

Un o brif wasanaethau blynyddol yr Abaty yw gwasanaeth y Gymanwlad, a chawn weld Deiniol wrthi’n brysur yn paratoi ar ei gyfer, er gwaetha’r tywydd garw a pherfformwyr yn cyrraedd yn hwyr.

Mae Deiniol yn byw mewn tŷ ar dir yr Abaty, ac mae’n tywys y camerâu o amgylch ei gartref ac ardaloedd o fewn yr adeilad hynafol nad ydynt ar agor i’r cyhoedd - gan gynnwys to’r Abaty - sydd â golygfa wych o’r Tŷ Cyffredin.

Bydd hefyd yn dangos urddwisgoedd hanesyddol yn nhrysorfa’r Abaty lle mae holl wisgoedd yr offeiriaid yn cael eu cadw, ac mae rhai wedi bod yno ers canrifoedd.

"Mae’r rôl yn un prysur, ac mae’r diwrnodau’n hir," eglura Deiniol. "Ond uchafbwyntiau’r swydd yw ei bod mor amrywiol. Mae’r bobl sy’n dod i’r gwasanaethau yma o bedwar ban byd."

Cafodd Deiniol ei fagu yn ardal Aberystwyth. Ei dad yw’r awdur a’r darlithydd, Gerald Morgan, a’i fam yw’r Parch. Enid Morgan, un o’r merched cyntaf i gael ei hordeinio’n Offeiriad. Ef yw’r ieuengaf o dri mab - mae’r hynaf, Rhys, yn ficer, ac mae ei frawd arall, Geraint Morgan, yn actor adnabyddus sy’n chwarae rhan Hywel yn y gyfres ddrama, Teulu, ar S4C.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales