Neidio at y cynnwys

S4C

Cymru Hywel Williams

Cymru Hywel Williams

Gwyliwch Drafodaeth Cymru Hywel Williams yn ei chyfanrwydd

Cymru dan y lach

"Gwlad fach od yw Cymru. Arbrawf cymdeithasol ar gyrion Ewrop." Mae Hywel Williams yn hanesydd a sylwebydd gwleidyddol sydd â barn ddadleuol am Gymru ac mewn cyfres fywiog newydd ar S4C mae'n mynegi'r farn honno yn ddi-flewyn ar dafod.

Yn y gyfres Cymru Hywel Williams, mae'n gofyn pa mor aeddfed yw Cymru fel cenedl, ddeng mlynedd ar ôl datganoli. Wrth wneud hynny, mae'n gobeithio ennyn trafodaeth am gyflwr cenedligrwydd. Ym marn Hywel mae angen dybryd am gwestiynu a thrafod yn y Gymru gyfoes.

Bywyd Cenedlaethol

Ym mhob un o'r rhaglenni lliwgar hyn bydd Hywel yn edrych ar agwedd gwahanol o'n bywyd cenedlaethol - yr economi, yr amgylchedd, diwylliant, crefydd ac iechyd. Bydd rhaglen drafod stiwdio ar ddiwedd y gyfres yn rhoi cyfle i leisiau amrywiol ymateb i syniadau Hywel a'u gwyntyllu.

"Un o ddiffygion y rhan fwyaf o'r hanes swyddogol am Gymru yw ei fod yn edrych ar Gymru o'r tu fewn ac mewn perthynas â Lloegr, y brawd mawr, yn hytrach na mewn cyd-destun rhyngwladol," meddai Hywel.

O ganlyniad, mae Cymru Hywel Williams yn torri cwys ffres drwy ystyried hanes a sefyllfa'r wlad heddiw mewn cyd-destun ehangach. Ac wrth gymharu Cymru â gwledydd eraill mae Hywel yn olrhain hanes Cymru yn y 50 mlynedd ddiwethaf, ac yn cyferbynnu 'ddoe a heddiw'.

Y Genedl

Yr wythnos hon mae'r rhaglen gyntaf yn ymdrin â thema Y Genedl. "Mae'n bosib defnyddio stori'r Aifft fel drych i hanes Cymru," meddai Hywel. Felly i ffwrdd ag ef i Cairo, a gwlad a fu dan reolaeth Prydain a Ffrainc hyd at 1956. Roedd camlas Suez yn hynod o bwysig i fasnach Prydain. Aeth yn Argyfwng Suez pan ddaeth y Cyrnol Nasser i rym a gwladoli'r gamlas.

Mae Hywel yn gweld sefyllfa Cymru heddiw yn debyg i sefyllfa'r Aifft cyn hynny, yn y 1930au. Iddo fe mae'n Senedd ni "yn debyg iawn i goron y Brenin Farouk", pyped ymerodraeth Prydain a Ffrainc yn yr Aifft yn y cyfnod hwnnw. "Gallwch chi gael adeiladau hardd a digon o brysurdeb tra bod y pŵer gwirioneddol i'w ganfod rywle arall," meddai Hywel.

Cymry'n ymdoddi

O gyfnod y Tuduriaid i arweinwyr sosialaeth a chenedlaetholdeb y Gymru gyfoes, arbenigedd y Cymry yw'r gallu i 'ymdoddi', yn ôl Hywel. Arbenigedd Lloegr, ar y llaw arall, yw pragmatiaeth. Felly mae'r Cymry wedi derbyn consesiynau i'w tawelu a'u cadw o dan reolaeth - 'rhoddion' fel y Beibl cyntaf yn yr iaith Gymraeg a ganiatawyd gan y Frenhines Elisabeth I yn 1588.

"Dyma'n hanes, dilyn llwyddiant a chlosio at rym," meddai Hywel. "Gweithio'n gyfrwys o fewn y sefydliad Prydeinig a wnaeth y Cymry dylanwadol a chael eu gwobrwyo am gydymffurfio. Bu fawr o sail i'n hymffrost am radicaliaeth a sosialaeth."

Gwelodd y Cymry eu cenedlaetholdeb yn nhermau diwylliant yn rhy hir, meddai Hywel. "Mae'n rhaid i bethau newid neu yma fyddwn ni yn adrodd yr un hen straeon nes i'r genedl ddiflannu. Dyna'r dewis sy'n ein hwynebu."

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales