S4C

Close
Flash is required to view this video

Cymry'r Titanic

Cymry'r Titanic

Archwilio dylanwadau Cymru ar fwrdd y Titanic 100 mlynedd ers y trychineb

Mae'n un o drychinebau morwrol mwyaf erchyll y byd a'r wythnos hon - 100 mlynedd ar ôl suddo'r Titanic ym Môr yr Iwerydd - bydd rhaglen arbennig ar S4C yn cynnig cipolwg ar gysylltiadau Cymreig y digwyddiad.

Ydych chi wedi clywed am Artie Moore, y gŵr glywodd negeseuon SOS y Titanic o'i sied yn Y Coed Duon? A wyddoch chi fod yna eitemau a chynnyrch Cymreig ar fwrdd y llong yn ystod y daith? A glywoch chi sôn am y ddau focsiwr o Dreherbert a Thonypandy a'u breuddwyd nhw o lwyddo yng nghylchoedd bocsio America? A phwy all anghofio dewrder Harold Lowe aeth yn ôl i geisio achub y teithwyr rhag boddi?

Lowri Morgan fydd yn archwilio'r pwnc yn y rhaglen Cymry'r Titanic nos Lun, 9 Ebrill wrth i'r byd gofio can mlynedd ers i'r Titanic daro mynydd rhew a suddo ar ei siwrnai o Southampton i Efrog Newydd.

Yn 2003, cafodd Lowri Morgan gyfle i ddeifio dwy filltir a hanner at weddillion y Titanic gyda chyfres Uned5 ar S4C. Mae Lowri yn un o gant o bobl yn unig sydd wedi plymio i fan gorffwys un o longau mwyaf adnabyddus y byd ac fe fydd hi'n hel atgofion am ei thaith i berfeddion Môr yr Iwerydd.

"Roedd deifio i waelod y môr at weddillion y Titanic yn brofiad wna' i fyth anghofio," eglura Lowri. "Ar y naill law mae'r adrenalin yn llifo ond ar y llaw arall, rydych yn cael eich atgoffa mai dyma garreg fedd dros 1,500 o bobl a man terfyn un o longau mwyaf eiconig ac adnabyddus y byd. Mae'n deimlad arallfydol bron, gan eich bod yn wynebu llong brydferth ac anferthol yn gorwedd yn llonydd ar wely'r môr."

Dau Gymro a gollodd eu bywydau yn nhrychineb y Titanic oedd Dai Bowen a Leslie Williams - dau focsiwr gyda chytundeb llewyrchus i focsio yn America. Yn ôl bob sôn, roedd 'na ddyfodol disglair yn eu haros ar ochr arall Môr yr Iwerydd. Cawn glywed eu hanes wrth i Lowri sgwrsio â pherthynas i Dai Bowen, sy'n cofio dyddiau cynnar y bocsiwr yn Nhreherbert.

"Mae pawb yn ymwybodol o drychineb y Titanic ond wrth imi edrych yn ddyfnach ar y stori ac ar ddylanwad Cymru a'r Cymry ar daith y llong, sylweddolais pa mor anhygoel yw'r cysylltiadau Cymreig. Roedd y boneddigion a boneddigesau ar fwrdd y llong yn bwyta ar lestri arian a ddaeth o Gymru ac roedd injans y Titanic yn cael eu pweru gan lo o Gymru. Boddodd Capten Edward Smith gyda'i long - ond does dim llawer o bobl yn gwybod fod gan ei deulu gysylltiadau â Chymru. Fe fyddwn ni'n dilyn trywydd straeon y Cymry a chwaraeodd ran yn un o ddigwyddiadau mwyaf trychinebus y ganrif ddiwethaf," meddai Lowri.