"Os nad wyt ti'n gwybod dy hanes, mi fydd yna ddarn ohonot ti ar goll am byth." Mae'n hanes ni yn rhan annatod ohonom ni i gyd yn ôl Dewi Prysor, cyflwynydd y gyfres newydd o Darn Bach o Hanes sy'n dechrau nos Fawrth, 2 Ebrill ar S4C.
"Yn ystod y gyfres yma mi fydda i'n mynd ar ôl amryw o straeon difyr o'n gorffennol agos a'n gorffennol pell, ac yn edrych arnyn nhw o sawl ongl," meddai'r awdur a'r cerddor a ddaw o Drawsfynydd yn wreiddiol, ond sydd bellach yn byw ym Mlaenau Ffestiniog.
Bydd ei daith gyntaf yn mynd â fo i Sir Fôn, lleoliad teilwng i ddechrau cyfres newydd, yn ôl Dewi.
"Mae'r lle yn berwi o hanes, hanes sy'n ymestyn yn ôl dros filoedd o flynyddoedd. Mae o'n frith o safleoedd hanesyddol sydd o wirioneddol bwys, nid yn unig i Gymru, ond mewn cyd-destun rhyngwladol."
Trysorau Llyn Cerrig Bach, a ddarganfuwyd ar yr ynys ym 1941, fydd yn cael sylw Dewi yn y rhaglen gyntaf. Caiff glywed yr hanes difyr ynghylch eu darganfod trwy ddamwain pan ehangwyd llain glanio maes awyr Y Fali yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a'u gweld â'i lygaid ei hun mewn arddangosfa arbennig yn Oriel Ynys Môn. Aiff ati wedyn i geisio dehongli arwyddocâd yr arteffactau o efydd a haearn. Ai offrwm i'r duwiau gan dderwyddon yr ynys oedden nhw?
Yn nes ymlaen yn y gyfres, bydd yn edrych ar y ffin annelwig sydd wedi bodoli yn hanesyddol rhwng hud a chrefydd, rhwng yr ysbrydol a'r swyngyfareddol. Un lleoliad arbennig o drawiadol ar y daith honno fydd 'pulpud' Huw Llwyd, milwr, bardd a Dyn Hysbys oedd yn hanu o Gwm Cynfal ger Llan Ffestiniog. Mewn rhaglen arall, bydd yn teithio o Wrecsam i Rydaman ar drywydd cymdeithas gyfeillgar o'r G19, sef Urdd Ddyngarol y Gwir Iforiaid. Wrth adrodd hanes hen herwyr Cymru, bydd yn croesi'r ffin i Lwydlo, tref oedd â'r dasg anffodus o orfod ceisio rhoi trefn ar elfennau anystywallt y Gymru ganoloesol!
Mae Dewi Prysor yn adnabyddus bellach am ei nofelau crafog a heriol, ond un ffaith amdano sydd efallai yn derbyn llai o sylw yw ei gariad amlwg at hanes, a'r ffaith y bu iddo ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2003.
"Mae pawb yn licio hanes tydyn? Mae o ddiddordeb i bawb. Heb hanes, dwyt ti'm yn gwybod pwy wyt ti nag o le ti'n dod - mae'n rhan o dy hunaniaeth di. Dy deulu di sy'n dy alluogi i wybod pwy wyt ti, ac mae hanes personol, lleol a chenedlaethol yn gwneud rhywbeth tebyg."