"Bron ar ddiwedd oes y ceffyl ac ar ddechrau oes y tractor, bron ar ddiwedd traddodiad y bardd gwlad - bues i'n ffodus iawn yn fy lleoliad fynna..."
Bu Dic yr Hendre yn byw ar fferm yr Hendre, Blaenannerch ger Aberteifi ar hyd ei oes, ac mae gwreiddiau ei gerddi yn ddwfn yn y pridd ac yn ei ardal yn Ne Ceredigion.
Cerddi a chrefft barddoni, plentyndod a phynciau mawr bywyd sydd dan sylw yn y rhaglen ddogfen Dic Jones - yn ei eiriau ei hun. Cafodd y cyfweliad hir gyda Dic ei recordio adeg y Pasg 2009, gyda'r bwriad gwreiddiol o ddilyn Dic dros flwyddyn o waith fel Archdderwydd.
Y teulu enwog o feirdd, Bois y Cilie, a ysgogodd Dic i farddoni gyntaf. Wedyn datblygodd e'n fardd llwyddiannus yn y mesurau caeth mewn eisteddfodau, gan ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd bum gwaith. Pen llanw blynyddoedd cynnar ei farddoni oedd y gerdd Y Cynhaeaf a gipiodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Aberafan iddo yn 1966.
Meddai Dic Jones, "Roedd y wefr o godi yn y pafiliwn a gweld yr holl wynebau wedi troi ata i yn brofiad na allwn fyth anghofio." Ond daeth canlyniadau annisgwyl i'r prifardd:
"Unwaith roeddech chi wedi ennill y Genedlaethol, roeddech chi'n cael gwahoddiad i fod yn feirniad mewn sioeau o bob math. Fues i hyd yn oed yn feirniad dawnsio disgo - doeddwn i erioed wedi gweld goleuadau strobe o'r blaen!"
Yn y rhaglen mae Dic hefyd yn sôn am ei benderfyniad dadleuol i dorri'r rheolau trwy gystadlu am y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976 ar y pwnc Y Gwanwyn, er ei fod yn aelod o Bwyllgor Llên yr ŵyl. Er iddo orfod gweld y wobr yn cael ei rhoi yn hytrach i fardd arall teilwng o'r wobr, sef Alan Llwyd, dywed Dic fod y testun gosod wedi ei orfodi i ysgrifennu a chystadlu.
Yn ogystal â'r melys a'r chwerw, mae'r cyfweliad yn trydanu ag emosiwn ar brydiau, yn enwedig wrth sôn am golli ei ferch dri mis oed â Syndrom Down's, Esyllt. Mae ei weddw, Jean, yn sôn amdano fel tad a thad-cu annwyl a mab Dic, Brychan, sy'n llefaru rhai o gerddi Dic yn y rhaglen hon.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales