Yn y rhaglen hon, cawn fynd i ardal a anfarwolwyd gan Marion Eames yn ei nofel boblogaidd, 'Y Stafell Ddirgel'.
Mi wnaeth y nofel hon ein cyflwyno i hanes Crynwyr ardal Dolgellau, ac yn y rhaglen Dilyn yr Ysbryd, mi gawn ninnau fynd ar daith ar hyd y llwybrau yr arferai'r Crynwyr cynnar eu cerdded yng nghwmni rhai Crynwyr cyfoes.
Mae'r lleoliadau yn y daith gerdded hon yn cynnwys enwau cyfarwydd i'r rhai sy'n ymddiddori yn hanes y Crynwyr yng Nghymru - Capel Tabor, (tŷ cwrdd cyntaf yr ardal) Dewisbren Uchaf (cartref Dorti Owen sy'n ysbrydoliaeth i lawer o Grynwyr heddiw), a Bryn Mawr, sef cartref Rowland Ellis, arwr 'Y Stafell Ddirgel'. Fe wnaeth yntau a'i deulu a nifer fawr o gyd-Grynwyr benderfynu ymfudo i America yn yr ail ganrif ar bymtheg er mwyn ffoi rhag yr erledigaeth yr oeddent yn ei ddioddef yng Nghymru. Bellach mae tref a choleg Bryn Mawr ger Philadelphia yn dyst i'w lwyddiant yno.
Mae tawelwch yn bwysig iawn i'r Crynwyr. Yn y tawelwch maent yn disgwyl am arweiniad gan yr ysbryd. Yn ôl William Penn (Crynwr blaenllaw a sefydlodd Pennsylvania) mae gwir dawelwch fel cwsg i'r corff. Mewn tawelwch, mae'r Crynwyr yn rhoi heibio manion bob dydd ac yn ymdroi at Dduw.
Meddai Dewi Gregory, cynhyrchydd a chyfarwyddwr Dilyn yr Ysbryd, "Tawelwch sydd wrth galon y Crynwyr, ac felly mi roedd hi'n bwysig fod peth o'r rhaglen yn llawn tawelwch. I mi, roedd hyn yn her ac yn gyfle gwych. Nid yn aml mae rhywun yn cael y cyfle i gyflwyno tawelwch ar y sgrin. Ond er mwyn deall mwy am y Crynwyr, dyma beth oedd yn rhaid inni ei ddangos gan mai dyma beth yw craidd eu haddoli."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales