Mae cyfres feddygol S4C, Doctor Doctor, yn dychwelyd i’r sgrin nos Fercher, 24 Awst a bydd Nia Parry a'r Dr Gwyn Jones yn trin a thrafod pob math o gyflyrau meddygol.
Yn rhaglen gynta'r gyfres bydd Dr Llinos Roberts, meddyg y gyfres, yn esbonio sut mae edrych am arwyddion o gancr y fron.
Clywn stori ddwys Gweno Williams, a benderfynodd dderbyn mastectomi, gan fod hanes teuluol o gancr y fron. Mewn cyfweliad emosiynol iawn bydd Gweno yn siarad am ei phrofiad o golli ei mam i’r cancr pan roedd hi'n ddim ond 11 oed.
"Mae aelodau’r cyhoedd, fel Gweno, sydd wedi cyfrannu at y gyfres yn arbennig o ddewr," meddai Dr Llinos, sydd yn wreiddiol o Fangor ond sydd bellach yn byw yng Nghaerfyrddin. "Mae clywed eu profiadau personol nhw o wahanol glefydau yn llawer mwy gwerthfawr na’r wybodaeth y gallaf ei chynnig gan eu bod nhw wedi ymdopi ac wedi goroesi yn emosiynol."
Hefyd ar y rhaglen, byddwn yn dilyn y chwaraewr rygbi rhyngwladol Jamie Roberts, sydd hefyd yn fyfyriwr meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd. Cawn ei weld yn arsylwi llawdriniaeth twll-clo. Y claf ydy Dale Mackintosh, un o hyfforddwyr rygbi amlycaf y byd, ac roedd gweld y llawdriniaeth ysgwydd yn agoriad llygad i Jamie.
Awn ar drywydd cwbl wahanol wrth gyffwrdd â phwnc dadleuol - triniaeth gosmetig. Ceir trafodaeth ddiddorol am driniaethau cosmetig yn cael eu defnyddio i drin cyflyrau meddygol - o feigryn cronig i gor-chwysu dan y ceseiliau.
"Does prin dim byd yn ddu a gwyn yn y byd meddygol, felly mae’n hollbwysig gallu trafod ystod eang o faterion meddygol ar y rhaglen. Mae gwahaniaeth barn rhwng doctoriaid yn beth gwerthfawr mewn rhai meysydd, ac mae siarad a thrafod yn iachus. Beth sy’n bwysig yw bod y gwylwyr yn derbyn y wybodaeth gywir," ychwanega Llinos.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales