S4C

Close
Flash is required to view this video

Doctor Doctor

Doctor Doctor

Meddyg teulu ymroddedig sy'n mwynhau'r byd teledu

Mae'r meddyg teulu Dr Llinos Roberts yn cydnabod ei bod hi ei hun wedi dysgu llawer am brofiadau cleifion wrth fod yn un o gyflwynwyr y gyfres iechyd Doctor Doctor ar S4C.

Ac wrth i'r gyfres ddychwelyd nos Fawrth, 14 Awst, mae hi'n gobeithio y bydd hi'n parhau i gael ymateb da i'r gyfres gan gleifion yn ei phractis yn Nhrimsaran ger Llanelli a gan y cyhoedd ledled Cymru.

Fe fydd Dr Llinos a'i chyd gyflwynydd, y meddyg teulu a'r sylwebydd a chyn chwaraewr rygbi, Dr Gwyn Jones, yn trafod pob math o bynciau a chyflyrau meddygol wrth gwrdd â chleifion ac arbenigwyr mewn ysbytai ac yn y gymuned.

"Mae wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o'r broses feddygol y tu hwnt i ffiniau'r feddygfa wrth ffilmio'r gyfres, yn enwedig wrth gael cyfle i fynd i'r theatr i weld triniaethau llawfeddygol," meddai'r doctor teulu 38 oed, sy'n wreiddiol o Fangor.

"Roedd ffilmio eitem am gataract llygad er enghraifft yn gyfle i imi weld triniaeth cataract am y tro cyntaf. Roedd bod yn dyst i'r driniaeth yn y theatr yn help imi wrth gynghori cleifion sy'n wynebu tynnu cataract."

Ymhlith y pynciau eraill a drafodir yn y gyfres mae pynciau mor amrywiol â chancr y fron, iau brasterog, afiechydon yr ysgyfaint a'r cymorth y mae gelennod - leeches - yn ei gynnig i feddygaeth.

"Rydan ni'n gobeithio bod y gyfres yn helpu gwylwyr i ateb rhai cwestiynau am gyflyrau a thriniaethau penodol a'u hannog i ddarganfod mwy amdanynt," meddai Dr Llinos, sy'n byw gyda'i gŵr Aled a'i merch fach ddwy oed, Miriam, yng Nghaerfyrddin.

Mae Dr Llinos yn credu'n angerddol y dylid annog y proffesiwn meddygol i ddefnyddio'r iaith Gymraeg yn fwy o lawer wrth ymdrin â chleifion.

"Dwi'n credu'n gryf y dylai'r gwasanaeth iechyd fod yn gallu cynnig gofal trwy gyfrwng y Gymraeg. Wedi'r cyfan, er mwyn cynnig y gofal gorau i gleifion mae'n rhaid gallu cyfathrebu yn effeithiol a hynny yn eu hiaith gyntaf. Mae rhai pobl yn meddwl nad oes modd trafod pynciau meddygol yn Gymraeg, ond mae'r gyfres yma'n helpu chwalu'r myth hwnnw. Mae'n llawn arbenigwyr sy'n gallu egluro pynciau cymhleth mewn ffordd naturiol sy'n hawdd i'w deall."

Mae Dr Llinos yn dweud ei bod wedi mwynhau cyd-gyflwyno'r gyfres gyda Dr Gwyn Jones, a oedd yn gyd-fyfyriwr iddi ym Mhrifysgol Caerdydd yn y 1990au. Ond does ganddi ddim bwriad i droi'n gyflwynydd llawn amser.

"Dwi'n mwynhau fy ngwaith fel meddyg teulu" meddai Dr Llinos, sy'n disgwyl ei hail blentyn yn yr wythnosau nesaf. "Mae'n fraint bod yn rhan o gymuned, a delio hefo cymaint o amrywiaeth o gyflyrau. Un munud rydych yn trin bawd tost a'r munud nesaf yn trafod iselder, does dim dal…"