Neidio at y cynnwys

S4C

Fel Arall

Fel Arall

Mae siwrne ryfeddol cyfunrhywioldeb yng Nghymru yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn y Gymraeg mewn ffilm ddogfen sydd wedi ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan un o wneuthurwyr ffilm mwyaf talentog Cymru, Nia Dryhurst.

Mae’r ddogfen yn bortread gonest o fywyd pobl hoyw yng Nghymru heddiw. Mae hefyd yn cyflwyno darlun o sut mae agwedd pobl tuag at gyfunrhywioldeb wedi newid dros y blynyddoedd.

Mae Nia Dryhurst yn rhannu ei siwrne ei hun â’r gwylwyr, wrth iddi gydnabod a derbyn ei rhywioldeb, a hefyd mae’n rhoi cyfle inni rannu profiadau nifer o bobl hoyw eraill.

Un o’r profiadau mwyaf ysgytwol yw profiad John o’r Bermo. Yn fyfyriwr 18 oed yn y 70au, darganfu ei hun yn Ysbyty Meddwl Dinbych yn derbyn yr hyn a oedd yn cael ei alw yn aversion therapy.

Profiad mwy cadarnhaol a gafodd Gareth o bentref Llanbedr ger Harlech. Mae’r rheolwr tafarn 25 oed yn dweud nad ydyw wedi dioddef unrhyw ragfarn na gwawd oherwydd ei rywioldeb. “Dwi wedi cael dim ond cefnogaeth gan fy nheulu a’m ffrindiau,” meddai.

Mae’n rhedeg yr “unig dafarn hoyw” yng ngogledd Cymru, y Three Crowns ym Mangor. “Dwi’n sgwrsio efo rhai sy’n dŵad i’r dafarn ac maen nhw wedi dioddef uffern go iawn,” meddai. “Mi fydda i’n trio helpu rhai sy’n dod i’r dafarn os ydyn nhw isho help. Mae’n amlwg eu bod nhw isho siarad. Dwi’n sôn am lyfrau dwi wedi’u darllan a helplines ac ati. Mae’n anodd iawn, does 'na unlle arall iddyn nhw fynd.”

Mae Gareth yn dweud ei fod wedi sylwi ar newid agwedd tuag at hoywon yng Nghymru dros y tair blynedd ddiwethaf. “Yn gyffredinol, mi rydan ni’n cael ein derbyn.”

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales