Neidio at y cynnwys

S4C

Fo, Fi a'r MC

Fo, Fi a'r MC

Prydferthwch Perig

Gan MC Saizmundo

Tonnau gwyn yn taro
ar draethau melyn eldorado
pob dim yn llonydd a digyffro
dyma’r colur dros y celwydd
dyma’r nefoedd dros nesa’r newyn
awyr las a gwyn di’r ewyn
Dyma’r gagendor mawr ei hun
yn llyncu pobl dros y dibyn
Ma’r nefoedd yn fflamiau
a’r cymylau’n hel ac yn amlhau
wrth i’r tywydd ddechrau cau.
Does na’m byd perig yn y byd mi
wn na dyn yn mynd o gwmpas yn
chwifio’r gwn
mwg yn codi, drygioni yn ffynnu
sŵn gynnau yn saethu, rhyfel
yn chwyrnu
yn y paradwys ffŵl, weli di
ddrewdod yn cronni
cymunedau dan warchae a’r
byd yn gwylio
miloedd wedi mwrdro a’r cyffur
yn waed ar ei dwylo
arian yn llifo wrth i’r ddinas ffrwydro.

Pwy feddyliai y byddai T. H. Parry-Williams yn tanio alter ego Deian ap Rhisiart, y rapiwr MC Saizmundo, a hynny ar gyfandir pell?

Dihangodd Parry-Williams yn 1925 ar fordaith ddeufis o gylch De America. Roedd yn ofni fod ei awen yn mynd i’r gwellt ac roedd wedi cyrraedd rhyw fath o groesffordd. Fe benderfynodd, felly, geisio atebion ac ysbrydoliaeth dramor.

Roedd taith o’r fath hon—i Giwba, Panama, Periw, Chile, yr Ariannin a Brasil — yn yr oes a oedd ohoni, ymhell o fod yn ystrydeb dwristaidd, a dyma fu cnewyllyn diddordeb Deian ap Rhisiart. Magwyd Deian yn Llanuwchllyn, ond gyda gwreiddiau ei dad yn Nyffryn Nantlle, ardal T. H. Parry-Williams, roedd lle amlwg iawn i waith y bardd ar yr aelwyd.

Gyda chymorth Dr Llion Jones o Brifysgol Cymru, Bangor, bwriodd Deian ati gyda’r ymchwil. Penderfynodd ddilyn ôl troed y Prifardd i Dde America, 80 mlynedd ar ôl y daith wreiddiol, gyda chamerâu teledu yn ei ddilyn.

“Gweld y peth yn rhyfedd, bod boi sydd bron ag obsesiwn am fro ei febyd yn gorfod mynd i ochr draw’r byd i chwilio am yr awen,” eglura Deian.

Defnyddir deunydd archif sain a llun drwy gydol y gyfres dair rhaglen, er mwyn cymharu profiadau Parry-Williams yn 1925 â phrofiadau personol Deian heddiw.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales