Neidio at y cynnwys

S4C

Frongoch – Man Geni’r IRA

Frongoch – Man Geni’r IRA

Gwersyll carcharorion ger y Bala oedd Frongoch. Rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 1916 cafodd rhyw 1,800 o wrthryfelwyr Gwyddelig eu caracharu yno, yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn. Roedd y ddinas ei hun yn deilchion, a gobeithion y gwrthryfelwyr wedi eu chwalu. Roedd y cyw Weriniaeth Wyddelig wedi cael ei malu gan rym yr Ymerodraeth Brydeining ar ôl 6 diwrnod yn unig.

Roedd na ddau fudiad yn ymladd yng Ngwrthryfel y Pasg, yr Irish Volunteers a’r Irish Citizen Army, gyda’r Irish Republican Brotherhood tu cefn i’r cyfan. Ond yn Frongoch, dechreuodd y dynion feddwl amdanyn nhw eu hunain fel un corff - Byddin Weriniaethol Iwerddon, yr IRA. Er bod y term IRA yn bodoli cyn hynny, Frongoch oedd man geni'r IRA fel mudiad gweithredol yn ddi-os.

Prin bum mlynedd a hanner wedi iddyn nhw gael eu rhyddhau, roedd y Gwyddelod wedi llwyddo i gipio rheolaeth dros ran fwyaf eu gwlad gan un o'r ymerodraethau mwyaf pwerus yn y byd. Yn Frongoch y gosodwyd y seiliau a arweiniodd at hyn.

Mae'r rhaglen Frongoch – Man Geni’r IRA yn olrhain hanes y cyfnod allweddol ond anghyfarwydd i lawer, a ddigwyddodd ar dir Cymru. Adroddir y stori yng ngeiriau'r dynion a oedd yna, wedi ei seilio ar eu cofnodion a'u llythyron o'r cyfnod, gan dalu sylw i dri dyn yn arbennig: Michael Collins, Joe Stanley a Séamas Ó Maoileóin.

Trwy gydol 1916, gofynnodd Aelodau Seneddol Gwyddelig yn San Steffan lu o gwestiynau i geisio codi digon o gywilydd ar Lywodraeth Prydain i'w orfodi i ryddhau dynion Frongoch. Cyflawnwyd hyn toc cyn y Nadolig, ond nid cyn i’r carcharorion Gwyddelig ail-sefydlu eu hunain mewn mudiad fyddai’n newid Iwerddon am byth.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales