Neidio at y cynnwys

S4C

Gwanas i Gbara

Gwanas i Gbara

Profiad emosiynol i Bethan

Cawn ddilyn yr awdures a'r gyflwynwraig Bethan Gwanas ar daith emosiynol i Nigeria yn y gyfres ddwy raglen, Gwanas i Gbara.

Pum mlynedd ar hugain ers iddi fod yno fel gwirfoddolwr VSO (Voluntary Service Overseas), mae Bethan yn dychwelyd i bentref Gbara yn ardal Niger State, lle bu'n dysgu am ddwy flynedd.

Anrhydedd

Yn y rhaglen gyntaf, mae Bethan yn cyfarfod cyn-ddisgyblion ac yn ail ymweld â'r ysgol lle bu'n athrawes. Mae hefyd yn derbyn anrhydedd fawr gan y bobl Nupe, prif lwyth yr ardal. Mae'r cyfan yn cael cryn effaith arni.

"Roedd gweld wyneb ambell gyn-ddisgybl yn ddigon i droi'r tap dagrau ymlaen, ac roedd crwydro gwahanol adeiladau yn dod â chymaint o atgofion yn ôl i mi," meddai Bethan, a fagwyd ar fferm Gwanas ger Dolgellau, ac sy'n byw bellach ym mhentref Brithdir gerllaw.

Mae Gwanas i Gbara yn profi i fod yn daith hynod o emosiynol i Bethan ac er gwaethaf y sôn am y peryglon o fynd i Nigeria, croeso a gwên a dderbyniodd hi gan bawb yno. "Ro'n i'n teimlo ym mêr fy esgyrn na fyddai fy rhan i o Nigeria wedi newid llawer. Mae hi'n wlad anferthol a does 'na'm trafferthion wedi bod yn Niger State erioed," meddai.

Taith emosiynol

"Mae 'na elfen o hunan ddadansoddi yma. Mi gawn brofi ystod eang o emosiynau, o'r chwerthin a'r hapusrwydd i'r dagrau a sylweddoli, yn ogystal â gweld bywyd yn Nigeria heddiw," meddai cyfarwyddwr y gyfres, Mei Williams.

Mae newidiadau wedi bod i fywyd yn Nigeria wrth gwrs ac mae 'dychwelyd' i le arbennig yn gallu arwain at siom ambell waith. Ond nid yw hyn yn wir yn achos Bethan. "Roedd mynd yn ôl yn sicr yn un o brofiadau mwyaf gwerthfawr fy mywyd i," cyfaddefa.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales