Bydd S4C yn gwledda ar arlwy o gynnyrch gorau Cymru gydag uchafbwyntiau o Noson Wobrwyo Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas 2010-11.
Bydd y rhaglen Gwobrau Gwir Flas yn rhoi blas o oreuon y gwobrau sy'n anrhydeddu gwaith caled cynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru.
Yn ogystal â datgelu enillwyr y medalau Aur, Arian ac Efydd ym mhob categori, byddwn yn bwrw golwg fanylach ar rhai o'r bobl a'u cynnyrch. Mae cyfanswm o 42 gwobr ar gael ond bydd y rhaglen yn rhoi sylw manylach i wyth o'r rhain, gan gwrdd â rhai o'r cynhyrchwyr sy'n gobeithio ennill y fedal Aur.
Y cwmnïau fydd yn cael sylw yn y rhaglen fydd Stâd Rhug, Corwen; Blas ar Fwyd, Llanrwst; Y Bwtri, Porthmadog a Pwllheli; Llaeth Bethesda Milk; Siop Fferm Llwynhelyg; The Pembrokeshire Tea Company Ltd; Gower Cottage Brownies; a Chaws Cennarth Cheese.
Sefydlwyd y gwobrau yn 2002 ac fe'u rheolir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Y nod yw hyrwyddo cynnyrch bwyd a diod gorau Cymru. Meddai Elin Jones, Gweinidog Materion Gwledig Cymru.
"Rwy'n falch iawn unwaith eto fod cynifer o gynhyrchwyr wedi cymryd rhan yng ngwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas, sy'n parhau i fynd o nerth i nerth. Mae safon a blaengaredd cynhyrchwyr o bob rhan o Gymru yn fy synnu bob amser ac mae'r gwobrau yn hollol haeddiannol yn cael eu cydnabod gan ddefnyddwyr a'r diwydiant bwyd a diod fel arwydd o ragoriaeth."
Heledd Cynwal fydd yn cyflwyno'r rhaglen ac yn cyfweld â'r enillwyr wedi iddynt gasglu eu gwobrau a bydd Siân Thomas yng nghanol y bwrlwm cefn llwyfan.
Mae Noson Wobrwyo Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas 2010 yn cael ei chynnal nos Iau 11 Tachwedd ar Faes Sioe Llwynhelyg, Hwlffordd. Yn llywyddu'r noson eleni mae'r darlledwr Jamie Owen.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales