Yn 1875 y ganed Crwys yng Nghraig Cefn Parc, pentref diwydiannol i'r gogledd o Abertawe.
William Williams oedd ei enw bedydd, ond fe gymerodd ei enw barddol o'r capel yng Nghraig Cefn Parc-Pant y Crwys.
Erbyn iddo gyrraedd ei arddegau roedd yn enillydd cyson yn yr eisteddfodau lleol. Dyma lle dysgodd ei grefft. Datblygwyd ei ddawn ymhellach pan aeth i ysgol Watcyn Wyn yn Rhydaman. Dilynodd Crwys ganllawiau ei athro trwy ysgrifennu cerddi syml a naturiol. Mawrygu bywyd y pentref a'r gymdeithas werinol urddasol oedd ei themâu amlycaf.
Bu am flynyddoedd lawer yn weinidog ar Gapel Rehoboth, Brynmawr yn ogystal â gweithio i Gymdeithas y Beiblau am bron i ddeugain mlynedd.
Mae nifer helaeth wedi dysgu ei waith a'u hadrodd droeon. Hyd yn oed heddiw mae ei gerddi megis Melin Trefin, Y Border Bach a Y Garreg Filltir i'w clywed ar lwyfannau'r eisteddfodau lleol .Er eu bod yn ymddangos yn syml mae yna ôl gwaith a gofal ymhob llinell.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales