Ym Mhwllheli ganed Albert Evans Jones yn 1895 yn fab i siopwr.
Pan yn fachgen ifanc cafodd gyfrol o waith Eifion Wyn yn anrheg gan ei dad. Cafodd ei wefreiddio gan y cerddi a dyma a daniodd ei ddiddordeb mewn barddoniaeth.
Roedd yn dipyn o rebel - yn condemnio gwallgofrwydd rhyfel, culni selogion y capeli a gwrthryfelodd yn erbyn safonau ei ddydd ym myd barddoniaeth. Defnyddiai iaith syml a llai barddonllyd yn ei waith.
Enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1921 am y bryddest Mab y Bwthyn - cerdd sy'n disgrifio profiad bachgen ifanc yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd goron hefyd yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Yn y gerdd hon o'r enw Y Dyrfa disgrifiodd gêm rygbi rhwng Cymru a Lloegr yn Twickenham. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw un wneud hyn.
Bu'n gyfrifol am ddiwygio'r Eisteddfod Genedlaethol. Sylweddolodd y gallai'r seremonïau apelio at y gynulleidfa wrth ychwanegu trefn, urddas a drama. Fe oedd yn gyfrifol am greu'r ddawns flodau yn 1936 a fe yw'r unig un i gael dau dymor fel Archdderwydd.
Cafodd ei urddo'n farchog yn 1969 am ei wasanaeth i fywyd diwylliannol Cymru a dewisodd y teitl Syr Cynan Evans Jones.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales