Neidio at y cynnwys

S4C

Gwlad Beirdd

Gwlad Beirdd

Gwenallt

Cafodd Gwenallt ei eni ym Mhontardawe yn 1899 cyn symud i'r Alltwen. Addysgwyd ef yn Ysgol Sir Ystalyfera lle bu Kate Roberts yn athrawes arno.

Yn 1917 ac yntau ond yn 19 mlwydd oed carcharwyd ef yn Wormwood Scrubs ac yna Dartmoor am fod yn wrthwynebydd cydwybodol. Dioddefodd ei deulu sen y capel a'r gymuned oherwydd safiad Gwenallt.

Lladdwyd ei dad gan fetel tawdd yn y gwaith tun lleol ac fe gafodd hyn effaith ddofn ar Gwenallt. Credai fod y gyfundrefn gyfalafol ddiwydiannol yn greulon a daeth hyn yn thema amlwg yn ei waith.

Er iddo gael ei fagu mewn ardal ddiwydiannol roedd dylanwad ardal wledig, amaethyddol Rhydcymerau arno hefyd. Fe fyddai'n ymweld yn gyson â'i berthnasau yn yr ardal amaethyddol yma yn aml yn ei fachgendod.

Yn 1926 enillodd ei awdl Y Mynach y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn 1927 yn Eisteddfod Genedlaethol Treorci roedd ei awdl anghonfensiynol Y Sant yn destun siarad llenyddol pan ataliwyd y Gadair ond enillodd eto yn yr un gystadleuaeth yn 1931.

Mae ei arddull yn chwerw, crwn a chryno. Ysgrifennodd am themâu crefyddol a chenedlaethol a'u dinoethi o bob teimladrwydd.

Roedd yn fardd cenedlaethol mawr - yn uno Cymru wledig a Chymru ddiwydiannol, Sosialaeth a Christnogaeth.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales