Neidio at y cynnwys

S4C

Gwlad Beirdd

Gwlad Beirdd

T Gwynn Jones

Cafodd T Gwynn Jones ei eni yn 1871 a'i fagu ym Metws yn Rhos mewn teulu diwylliedig.

Ni wnaeth ei dad ddysgu'r cynganeddion i'w fab. Roedd Isaac Jones yn gweld bai ar y gynghanedd am ffaeleddau barddoniaeth y cyfnod.

Doedd y mab fodd bynnag ddim o'r un farn a'i dad ac yn ddim ond 14 oed, enillodd wobr am ei englyn i'r Bytaten yn Nhrysorfa'r Plant. Mewn amser, fe ddaeth T Gwynn Jones i ddweud pethau mawr ar gynghanedd.

Ceisiodd ddwywaith i fynd i goleg, ond daeth amgylchiadau ac afiechyd i'w rwystro, ac roedd methu cyflawni'r uchelgais hon wedi ei siomi'n fawr. Aeth i Lerpwl gyda golwg ar fynd yn blismon. Ond newyddiadura wnaeth e fwyaf, gyda phapurau fel y Liverpool Mercury, Liverpool Post a'r Manchester Guardian, ac yng Nghymru gyda'r Faner a'r Cymro a'r Herald.

Mae'r beirniaid i gyd yn gytûn fod T Gwynn Jones wedi dod â bywyd newydd i hen ffurf yr awdl - a cherdd-dafod yn gyffredinol. Defnyddiodd iaith ei hun heb gynnwys geiriau hen ffasiwn. Doedd dim ofn addasu arno nac arbrofi chwaith.

Mae e'n dweud yn ei ragair i'w gyfrol Caniadau mai ofer ceisio yn ei gerddi na dysgeidiaeth nac athroniaeth ond dyw hynny ddim yn wir. Yn gyson mae e'n trafod yr ymchwil am y man gwyn fan draw, mae o'n gwybod 'i fod o'n byw mewn byd amherffaith, ac mae ei gerddi'n rhoi rhyw syniad i ni o sut alle pethe fod.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales