Fe anwyd R Williams Parry yn ystod datblygiad syfrdanol y chwareli llechi yn Nyffryn Nantlle. Treblodd y boblogaeth rhwng 1801 a 1891 o 4,000 i 12,000. Roedd dyffryn a fu unwaith yn ddyffryn amaethyddol hyfryd nawr yn ardal ddiwydiannol brysur.
Dim ond dwy gerdd ysgrifennodd R Williams Parry yn benodol i'r dyffryn, Dyffryn Nantlle Ddoe a Heddiw a Y Ddol a Aeth o'r Golwg. Mae e'n sôn am y ddau wareiddiad newydd a ddaeth i'r dyffryn - sef gwareiddiad y capel a gwareiddiad y chwarel. Ac yn ei waith, mae e'n awgrymu nad yw'n derbyn y ddau yn llwyr.
Roedd yn gwirioni ar ardaloedd gwledig,ardaloedd nad oedd wedi eu creithio gan ddiwydiant. Mae nifer o'i gerddi enwocaf - Clychau'r Gog ac Eifionydd yn clodfori anfarwoldeb a phrydferthwch natur.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd a'r fyddin. Roedd yn fethiant llwyr fel milwr er mai ei lawlyfr o'r cyfnod yn dangos iddo gymryd nodiadau gofalus iawn yn disgrifio sut i adeiladu ffos a sut i saethu.
Roedd yn berson ofnus iawn - ofn y tywyllwch, ofn y storm, ofn llefydd cyfyng a nid doedd yn rhy hapus yn gyrru car.
Bu'n ddarlithydd yn adran y Gymraeg ym Mangor. R Williams Parry oedd y bardd cyntaf i fynd ar streic lenyddol. Rhwng 1933 a 1936 pwdodd gyda'r coleg ac ni ysgrifennodd ddim arwahân i ddau englyn.
Bu farw ar 4 Ionawr 1956 a'i gladdu ym Mynwent Coetmor, Bethesda.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales