Cafodd Elizeus Williams neu Eifion Wyn ei eni yn 1867 ym Mhorthmadog. Yn ddwy oed cafodd niwmonia a gadawodd yr aflwydd hwn effaith arno weddill ei oes. Nes ymlaen yn ei fywyd pan oedd yn teimlo'n sâl roedd ganddo ffydd gref fod cadw sleisen o lemwn yng nghil ei geg o gymorth iddo.
Roedd yn fardd poblogaidd iawn. Gwerthodd ei ail gyfrol o gerddi bron i 3,000 o gopïau yn syth. Ymhlith ei gerddi enwocaf mae Ora Pro Nobis, Cwm Pennant, a Mai. Fe hefyd ysgrifennodd ddwy o'n hemynau mwyaf adnabyddus ni - Dod ar fy Mhen, ac Efengyl Tangnefedd.
Er iddo ennill saith cadair mewn eisteddfodau lleol ni chafodd erioed ei gadeirio gan ei fod yn rhy swil i ymddangos ar y llwyfan. Ond roedd yn barod iawn i gyhoeddi llythyrau tanllyd yn y Wasg yn beirniadu cerddi ei gyfoedion neu pan deimlai iddo gael cam eisteddfodol.
Bu farw ar Hydref 13 1926, a'i gladdu yn Chwilog. Fe ddaeth ei garreg fedd o un o'r llefydd a anfarwolwyd ganddo - Cwm Pennant.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales