Mae'r gyfres hon yn rhoi sylw i rai o feirdd mawr ein cenedl, a hynny mewn dull gweledol iawn. Mae'r lluniau a'r geiriau'n bwysig yn y gyfres Gwlad Beirdd wrth inni ddysgu mwy am fywydau'r beirdd. Cawn glywed rhai o'u cerddi enwocaf, ac ymweld â'r mannau a ysbrydolodd y cerddi rheiny.
Y prifeirdd Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones sy'n cyflwyno'r gyfres, ac yn eu cwmni nhw, cawn deithio o Ddyffryn Nantlle i Sir Benfro a'r golygfeydd yn gefnlen i'r cerddi.
Meddai cynhyrchydd y gyfres, Lona Llewelyn Davies, "Mae wedi bod yn wych cael esgus i eistedd a darllen y cerddi yma unwaith eto. Maen nhw'n gerddi rydyn ni'n eu hadnabod ond efallai ddim yn cofio ein bod yn eu hadnabod, neu ddim yn cofio pwy yw'r awdur. Mae wedi bod yn ddifyr iawn ail-ymweld â'r cerddi, a'u trafod gyda Mererid, Dylan a'r cyfranwyr eraill i'r gyfres fel yr Athro Gwyn Thomas, y cyflwynydd Daf Du, yr actores Maureen Rhys ac ymgyrchydd iaith a chyn athro Emyr Llewelyn."
Meddai Mererid Hopwood, "Dwi wedi mwynhau gweithio ar y gyfres mas draw. Mae'n fraint cael mynd o amgylch Cymru a dod o hyd i'r llefydd a ysbrydolodd y cerddi dwi wedi dwlu arnyn nhw."
Y bardd o Ddyffryn Nantlle, R. Williams Parry, sy'n cael sylw yn y rhaglen gyntaf, ac mae'r lleoliadau a ymwelir â nhw yn cynnwys Craig Cwm Dulyn, Y Lôn Goed ger Cricieth a Chastell Dolbadarn, Llanberis.
Dyma fardd Awdl yr Haf, y gerdd Eifionydd, ac englynion coffa Hedd Wyn. Bu fyw trwy gyfnod o newid mawr yn ardal ei febyd, ac mae'r dryswch a achosodd hyn iddo'yn cael ei adlewyrchu yn ei waith.
Y beirdd eraill fydd yn cael sylw yn y gyfres yw Waldo, Crwys, Cynan, Eifion Wyn, T. Llew Jones, T H Parry Williams, Hedd Wyn, Gwenallt a T Gwynn Jones.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales