Mae'n chwe blynedd ers i'r ferch o Sir Benfro, Connie Fisher, ddod i'r brig mewn cystadleuaeth dalent ar y teledu, How Do You Solve a Problem Like Maria?
Yn y rhaglen Gwreiddiau: Connie ar nos Sul, 15 Ebrill ar S4C bydd Connie yn mynd ar drywydd ei gwreiddiau teuluol yng Ngogledd Iwerddon ac yn sôn am yr uchelfannau a'r ergydion y mae hi wedi eu hwynebu ers iddi ddod i sylw'r byd ar y gyfres deledu.
Mae hi hefyd yn sôn am effaith ardal ei magwraeth - Sir Benfro - a'r iaith Gymraeg ar ei bywyd ac yn trafod yr her o fod yn seren un o sioeau cerdd enwoca'r West End, The Sound of Music, a'i gobeithion am y dyfodol.
Wedi gorfoledd ennill y gystadleuaeth deledu a dechrau chwarae Maria yn sioe enwog Yr Arglwydd Andrew Lloyd Webber, daeth cyfnod anodd i Connie ac ansicrwydd am ei dyfodol fel cantores.
Yn sgil problemau gyda'i llais, aeth i weld arbenigwr llais gorau'r byd yn Boston a dyna le wnaeth hi ddarganfod ei bod hi'n dioddef o'r cyflwr, Sulcus Vocalis.
"Dywedodd yr arbenigwr fyddwn i byth yn canu eto," meddai Connie. "Ro'n i mewn sioc a ro'n i wir yn credu mai dyna oedd diwedd fy ngyrfa. Dyna'r pwynt isaf yn fy mywyd. Un o'r pethau anoddaf oedd teimlo fel fy mod i wedi gadael pobl lawr - nid yn unig colli fy llais ond colli darn ohona i - ac rwy'n dal i deimlo hynny."
Ond fe gynigiodd yr arbenigwr, sydd hefyd wedi helpu Julie Andrews, Adele a Steven Tyler, obaith iddi gyda'r opsiwn o gael triniaeth arbrofol ar ei llinynnau llais. Yn ffodus i Connie, bu'r driniaeth yn llwyddiannus.
"Roedd yn rhaid i fi ddysgu sut i ganu eto - i ddysgu rhywbeth sydd wastad wedi dod yn naturiol i fi. Roedd hynny'n anodd a ro'n i'n torri fy nghalon."
Nawr mae Connie yn edrych ymlaen at ddychwelyd i'r llwyfan dros y misoedd nesaf yn sioe gerdd Leonard Bernstein, Wonderful Town.
Cawn hefyd ddilyn Connie ar daith emosiynol 'nôl i'w thref enedigol yn Lisburn, Gogledd Iwerddon. Yno, bydd y gantores yn cofio'i magwraeth ar dir y fyddin yn ystod cyfnod cythryblus yn hanes y wlad a marwolaeth ei hefaill, Justin Michael Fisher, yn faban.