Wrth i S4C ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed, fe fydd y Sianel yn darlledu drama ddogfen rymus am benderfyniad Gwynfor Evans i fygwth ymprydio hyd farwolaeth yn yr ymgyrch dros sianel Gymraeg.
Bydd y ddrama ddogfen Gwynfor: Y Penderfyniad nos Sul, 4 Tachwedd yn bortread trwy ddrama, archif ac atgofion o benderfyniad y cenedlaetholwr blaenllaw i wneud safiad dadleuol yn yr ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg.
Mae Gwynfor: Y Penderfyniad, sydd wedi'i hysgrifennu gan yr Archdderwydd T James Jones a'i chynhyrchu gan gwmni Apollo, yn ail-greu blwyddyn dyngedfennol ym mywyd Gwynfor Evans, gyda'r actor Aneirin Hughes yn portreadu Gwynfor.
Ym mis Medi 1979, fe wnaeth Llywodraeth Geidwadol newydd Margaret Thatcher dorri addewid maniffesto trwy gyhoeddi nad oeddent am sefydlu sianel deledu Gymraeg.
Arweiniodd hyn at benderfyniad Gwynfor Evans i gyhoeddi ympryd hyd farwolaeth ac o fewn 12 mis, roedd y Llywodraeth wedi newid meddwl ac wedi penderfynu sefydlu gwasanaeth teledu S4C.
Meddai'r cynhyrchydd Lona Llewelyn Davies, "Mae'n bortread cynnes, sensitif o ddyn dewr a wnaeth benderfyniad ysgytwol a allai fod wedi arwain at ei farwolaeth. Mae'r ddrama ddogfen wedi seilio'n gadarn ar hanes ond mae hefyd yn caniatáu i ddychymyg yr awdur T James Jones dwrio i psyche Gwynfor Evans ar y pryd."
Ymhlith y rhai sy'n cymryd rhan mae aelodau amlwg o Blaid Cymru ar y pryd, yr Arglwydd Dafydd Wigley a Peter Hughes Griffiths; y sylwebydd cyfryngau, Euryn Ogwen' cyn brif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Emyr Jenkins; mab Gwynfor Evans, Guto Prys ap Gwynfor, ei ferch Meinir Ffransis, a'i gŵr hithau, yr ymgyrchydd iaith blaenllaw Ffred Ffransis.
Eglurodd yr awdur T James Jones fod "gorfod cyflwyno meddyliau a theimladau Gwynfor yn unig yn her arbennig iawn" a bod "y sgript yn galw am driniaeth debyg i gyfansoddi cerdd."
Ychwanegodd T James Jones, "Roedd Gwynfor wedi dioddef iselder yn dilyn '79 a bu tro pedol y Torïaid yn ffurf ar hunan-achubiaeth iddo. Teimlwn reidrwydd i awgrymu hyn gyniled â phosib wrth ysgrifennu'r ymson. Ond ar y llaw arall edmygwn ei ddewrder a gobeithio fod hyn hefyd yn amlygu ei hun.
"Un o'r dirgelion pennaf oedd ceisio dyfalu teimladau ei wraig a'i bartner bywyd, Rhiannon. Mae'r berthynas briodasol yn cael lle amlwg ac mae Rhiannon ei hun yn datblygu'n arwres y stori."
Mae'r actor 54 oed, Aneirin Hughes, sy'n wreiddiol o Benybontrhydybeddau, Ceredigion, yn "edmygydd mawr" o Gwynfor.
"Roedd hi'n anrhydedd enfawr gael cynnig y rhan," meddai'r actor, sy'n byw yn Nhrefynwy. "Roeddwn yn ymwybodol o bwysigrwydd Gwynfor Evans o oedran ifanc ac fel myfyriwr ar y pryd yn edmygu ei safiad.
"Roedd yn her anodd i bortreadu Gwynfor am ei fod mor adnabyddus ac yn bersonoliaeth cerebral a oedd yn un tawel ei fynegiant. Ond fe wnes i fwynhau gweithio ar sgript T James Jones," meddai'r actor, a bortreadodd Carwyn James mewn drama ddogfen arall gan T James Jones a ddarlledwyd ar S4C rai blynyddoedd yn ôl.