Bydd cyfres ddogfen ddwy ran ar S4C, Gwynt Ynni Hwyliau, (nos Fawrth, 14 a nos Fawrth, 21 Chwefror), yn cynnig portread o griw o brotestwyr sy'n brwydro yn erbyn cynlluniau i godi ffermydd gwynt ar raddfa fawr ym Mhowys, Canolbarth Cymru.
Bu camerâu Cynyrchiadau Ceidiog yn dilyn y protestwyr yn yr hen Sir Drefaldwyn dros gyfnod o bedwar mis, ddiwedd 2011 a dechrau 2012, wrth iddynt ymgyrchu yn erbyn nifer o ddatblygiadau ynni adnewydddol yn yr ardal.
Yn ystod y rhaglenni bydd gwylwyr S4C yn dod i adnabod ymgyrchwyr lliwgar MAP - Montgomeryshire Unite Against Pylons, Maldwyn yn erbyn Peilonau.
Ymhlith nifer o gynlluniau arfaethedig gan y Grid Cenedlaethol y mae sefydlu safle ynni adnewyddol un ai ym Abermiwl neu yng Nghefn Coch sy'n golygu gosod ceblau 400,000 folt ar lawr dyffryn hardd Cwm Efyrnwy. Mae MAP yn dadlau na ellir cyfiawnhau'r fath ddifrod i'r tirlun ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddol sydd ond yn cynhyrchu 0.58 o drydan y Grid Cenedlaethol ar hyn o bryd.
Ymhlith yr ymgyrchwyr mae'r awdures a darlledwraig o Lanfair Caereinion, Myfanwy Alexander.
"Dwi wedi dod i adnabod croesdoriad o bobl drwy'r ymgyrch - mae'n ymgyrch sydd wedi uno grŵp enfawr o bobol ar draws cymunedau'r sir. Dwi wedi cwrdd â hen ffrindiau nad oeddwn wedi gweld ers dyddiau ysgol a phobl sydd wedi byw yn yr ardal ers 20 mlynedd a mwy nad oeddwn yn gwybod eu bod yn gymdogion," meddai Myfanwy.
"Mae'r ymgyrch wedi uno pobl sydd yn agos at y tirlun, yn ffermwyr neu'n bobl sydd wedi dewis symud i fyw yn y wlad. Ychydig iawn o bobl leol sydd o blaid."
Yn ôl Myfanwy mae'r criw yn ymgyrchu yn erbyn Llywodraeth Llundain a Chaerdydd achos er mai San Steffan sydd â'r gair olaf, polisi Caerdydd yw dewis wyth ardal i greu cynlluniau am ynni gwynt adnewyddol.
"I wladgarwr fel fi, mae'r polisi wedi creu dilema am fod Llundain fel petaen nhw'n fwy bodlon gwrando ar ein gwrthwynebiad na Chaerdydd. Mae Carwyn Jones yn ceisio pasio ymlaen y cyfrifoldeb i Lundain, ond polisi Caerdydd yw hwn - mae'n pasio'r buck.
"Dwi ddim yn credu bod y Llywodraeth wedi disgwyl gwrthwynebiad mor chwyrn. Rydym yn disgwyl penderfyniad ddechrau mis Mawrth ond rydym wedi dangos i gwmnïau na fydd Sir Drefaldwyn yn darged hawdd ar gyfer datblygiadau ar raddfa fawr."
Yn ogystal â Myfanwy, mae'r camerâu'n dilyn, ymhlith eraill, David Oliver o ardal y Drenewydd, Rhisiart ap Rhys Owen o Lansanffraid-ym-Mechain sy'n llyfrwerthwr yn Y Trallwng, Carolle Doyle, awdur a newyddiadurwraig o Drefnannau sy'n arbenigo mewn materion cefn gwlad a Jonathan Wilkinson, ffermwr o Feifod a Chadeirydd pwyllgor MAP, Lloyd James, sy'n cadw bythynnod gwyliau yn ardal Cefn Coch a Bethan Jones o ardal Berriew.
Meddai Cynhyrchydd y rhaglenni, Nia Ceidiog, "Beth bynnag yw'n barn ni ar bwnc llosg ffermydd gwynt ac ynni adnewyddol, mae'n rhaid edmygu'r ffyrdd dyfeisgar y mae ymgyrchwyr MAP yn eu defnyddio i drefnu'u hymgyrch. Mae'r rhaglenni'n bortread o sut mae ymgyrch o'r fath yn tynnu ynghyd pobl o wahanol gefndiroedd, pobl leol a phobl sydd wedi symud i'r ardal. Ac maen nhw'n bobol hynod o ddifyr. Mae'n cynnig darlun ychydig yn wahanol o fywyd yng nghefn gwlad Cymru."