Pwy oedd y gŵr a geisiodd fynd â'i geffyl ar drên yn Wrecsam? Cawn wybod mwy amdano mewn rhaglen ddogfen ar S4C yr wythnos hon.
Mi wnaeth stori'r gŵr tlawd ei olwg a'i geffyl gwyn ddenu sylw'r cyfryngau ac ennyn diddordeb mawr yn lleol yn gyntaf yn Wrecsam lle gwelwyd y ddau, ac yna yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, diolch i You Tube a Facebook. Ar ôl i'r ddau gael eu gweld yn yr orsaf drên, yn y feddygfa ac o flaen y dafarn, roeddent yn destun siarad brwd.
Nos Fercher darlledir rhaglen ddogfen sy'n olrhain stori'r ddau, Joe Purcell, sy'n 71 oed, a'i geffyl, Ruby. Mae hefyd yn bwrw golwg ar y gymuned y mae'r ddau yn perthyn iddi - y gymuned trafaelwyr sipsi sydd wedi ymgartrefu yn Wrecsam.
"Mi roedd diddordeb gen i i wneud rhaglen am y sipsiwn Cymreig cyfoes, ac ro'n i wedi dechrau edrych ar y gymuned yn Wrecsam," esbonia Sioned Morys o gwmni cynhyrchu Chwarel, cynhyrchydd y rhaglen Joe a Ruby.
"Felly, mi wnes i benderfynu yn sgil yr holl gyhoeddusrwydd, i edrych yn fanylach ar fywyd Joe. Mi wnaethon ni ei ddilyn am ddeufis, gan geisio dod i adnabod a deall ei gymuned yn well. Erbyn i ni ddechrau ffilmio, roedd y Cyngor lleol wedi cymryd gofal o Ruby, ac yn y rhaglen, mi gawn ni ddilyn ymdrechion Joe i gael y ceffyl sydd mor annwyl iddo yn ôl. Fe fuon ni'n ffilmio yn bennaf yn ardal Wrecsam, ond mi wnaethon ni hefyd ymweld ag Iwerddon, i siarad ag aelodau o deulu Joe yno, sef teulu'r Purcell o Tullow yn swydd Carlow. Maen nhw'n deulu amlwg iawn yn y byd magu a gwerthu ceffylau.
"Bu farw gwraig a merch Joe ddwy flynedd yn ôl ac mae ei stori yn un drist. Er hynny, mae'n rhaid i mi ddweud mai gweithio ar y rhaglen hon yw un o'r profiadau mwyaf gwerthfawr dwi wedi ei gael yn ystod fy 20 mlynedd fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu. Roedd yn rhaid inni fel criw cynhyrchu ennill ymddiriedaeth y gymuned drafaelio ac mi roedd hynny'n anodd oherwydd yr adwaith sydd wedi bod i'r gyfres My Big Fat Gypsy Wedding. Mae wedi cymryd lefel uchel o ymddiriedaeth o'r ddwy ochor.
"Ar y dechrau doedden ni ddim yn deall eu byd nhw, a doedden nhw ddim yn deall ein byd ni. Mae eu gwersyll nhw yn Wrecsam y drws nesa' i faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Ond doedden nhw ddim wedi deall o gwbl beth yw Eisteddfod. Mi roedden nhw'n meddwl fod ffair geffylau enfawr am ddigwydd yno! Mae swyddogion yr Eisteddfod bellach wedi croesawu'r trafaelwyr i'r maes ac wedi mynd â nhw ar daith i esbonio beth fydd yn digwydd yno. Mae Joe yn awr yn bwriadu ymweld â'r Eisteddfod, ond heb Ruby."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales