Neidio at y cynnwys

S4C

Lawrence o Arabia

Lawrence o Arabia

Irac. Palestina. Lebanon. Mae’r gwledydd hyn yn hawlio’r penawdau newyddion yn ddyddiol. Ond bydd ffilm ddogfen newydd ar S4C yn mesur pa mor allweddol fu T E Lawrence, Cymro a aned yng ngodre Eryri, yn llunio’r Dwyrain Canol modern.

Y cyflwynydd a’r cynhyrchydd Ali Yassine sy’n mynd ar drywydd Lawrence yn y rhaglen ddadlennol Lawrence o Arabia. I Ali, 44 oed, dyma ymchwil yn agos iawn at ei galon. Yn Fwslim a aned yng Nghaerdydd, gyda pherthnasau yn y Dwyrain Canol, mae ganddo ddiddordeb yn Lawrence ers yn ifanc.

“Roeddwn yn ymwybodol bod Lawrence yn amlwg ym mrwydr yr Arabiaid i gael rhyddid o Ymerodraeth yr Ottoman – Twrci,” meddai. “Ond roeddwn i am wybod faint o ddylanwad a gafodd mewn gwirionedd.”

Ganed Lawrence yn Nhremadog, ger Porthmadog ym 1889, yn fab i Thomas Tighe Chapman a’i gariad, Sarah Jenner. Roedd ymweld â’r Dwyrain Canol ddechrau’r ugeinfed ganrif yn ffasiynol, ac fe fentrodd Lawrence yno ar ôl graddio i weithio ar gloddfa archeolegol. Gyda dechrau’r Rhyfel Mawr yn 1914, fe’i recriwtiwyd gan Brydain i helpu’r Arabiaid yn eu brwydr am ryddid.

Fe brofodd Lawrence yn rhyfeddol o lwyddiannus fel strategydd. Fe ddewisodd lwyth crwydrol y Sahara, y Bedouin fel calon ei fyddin, Emir Fesail fel y prif arweinydd, a defnyddio tactegau guerilla. Dyma oedd dechrau myth Lawrence o Arabia.

Ond tra bod yr Arabiaid yn meddwl bod Prydain a Lawrence yn eu helpu, mewn gwirionedd roedd Prydain a Ffrainc wedi arwyddo cytundeb cyfrinachol i rannu’r tiroedd Arabaidd rhyngddynt.

Er gwaethaf brad Lawrence, mae Ali yn cydymdeimlo ag ef.

“Cyn gwneud y rhaglen, doedd gen i fawr o barch ato achos mod i’n teimlo ei fod wedi camarwain yr Arabiaid. Ond des i sylweddoli ei fod mewn sefyllfa anodd achos bod gwneud ei ddyletswydd dros Brydain mor bwysig iddo. Rwy’n credu mai dyna pam y ciliodd o lygaid y cyhoedd ar ôl y rhyfel. Tra bod gwladwriaeth Prydain yn ei droi’n fwy a mwy o arwr, roedd e’n teimlo’n euog.”

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales