Neidio at y cynnwys

S4C

Law yn Llaw

Law yn Llaw

Mae gan yr athletwraig, Tracey Hinton o Gaerdydd restr hir o lwyddiannau a llond cwpwrdd o fedalau a enillwyd ganddi dros y blynyddoedd diwethaf.

Ond ei 'llygaid' yw athro 25 oed o Gaerfyrddin, Steffan Hughes, tywysydd rhedeg yr athletwraig 38 oed sydd â nam ar ei golwg.

Fe ddilynodd camerâu S4C Tracey a Steffan i Beijing am y Gemau Paralympaidd 2008 lle'r oedd Tracey'n cystadlu yn y stadiwm Nyth Aderyn enwog, lleoliad Gemau Olympaidd fis Gorffennaf ac Awst.

Mae'r rhaglen Law yn Llaw yn adrodd stori'r ddau o'r cychwyn cyntaf pan sylwodd Steffan ar boster yng ngholeg UWIC – Athrofa Prifysgol Cymru - yng Nghaerdydd yn apelio 'Wanted! Eyes for the Paralympic athlete Tracey Hilton – Are you up for the challenge?'

Myfyriwr oedd Steffan ar y pryd gyda phêl-droed fel ei ddiddordeb pennaf. Roedd yn amheus ar y dechrau ynglŷn â'i allu i fod yn dywysydd i Tracey. Roedd hynny 7 mlynedd yn ôl ac erbyn heddiw mae'r bartneriaeth wedi datblygu i fod yn esiampl arbennig o gydweithio clos.

Rhoddodd Steffan y gorau i yrfa addawol fel pêl-droediwr er mwyn bod yn gefn i Tracey. "Ar un adeg, petai rhywun wedi dweud wrtha i y byddwn i'n rhoi'r gorau i chwarae pêl-droed er mwyn bod yn dywysydd i athletwraig baswn i wedi chwerthin ond wrth i mi ddechrau cydweithio â Tracey, roedd hi'n gymaint o ysbrydoliaeth, fe rois fy mreuddwyd i un ochr," meddai Steffan.

Yn Beijing bu Tracey yn cystadlu mewn tair ras - dros 100m, 200m a 400m.

"Dilyn hynt a helynt Steffan wrth iddo baratoi i fod yn dywysydd rhedeg i Tracey yn Beijing fyddwn ni'n wneud yn bennaf yn y rhaglen," meddai'r cynhyrchydd, Heulwen Humphreys, o gwmni cynhyrchu Telesgôp yn Abertawe. "Fe'i gwelwn yn ymarfer gyda hi ac wrth ei waith bod dydd fel athro ysgol."

Tywysydd arall oedd fod cydredeg â Tracey yn Beijing gan fod Steffan newydd gychwyn mewn swydd newydd yn Ysgol Dewi Sant, Llanelli. Ond ar ôl i'r tywysydd newydd gael ei anafu, bu'n rhaid i Tracey apelio eto i Steffan.

"Steffan oedd fy unig obaith," meddai, "os oeddwn i am fynd i Beijing a llwyddo, ef oedd fy unig siawns.

"Steffan yw fy 'llygaid' ymhob ras felly mae 'na gyfrifoldeb mawr ar ei ysgwyddau. Mae'n siarad â mi'n gyson trwy bob ras ac yn dweud wrtha i ble ydw i ar y trac. Mae e'n gorfod canolbwyntio'n fanwl bob amser.

"I ffwrdd o'r trac, mae'n bwysig dod ymlaen â'n gilydd yn dda gan ein bod yn gorfod gwario gymaint o amser yng nghwmni'n gilydd. Yn ystod y Gemau Paralympaidd rhaid gwario bob dydd gyda'n gilydd am bedair wythnos. Oni bai ein bod yn hapus yn gwneud hynny, buasai bywyd yn hunllef," medd Tracey.

Fel arfer, bydd Tracey yn ymarfer chwe diwrnod yr wythnos. Yn ogystal ag ymarfer ar y trac, bydd Tracey yn rhedeg ryw 40 milltir ar yr heolydd bob wythnos.

Yn un o 31 o athletwyr o Gymru a ddewiswyd gan ParalympicsGB i fynd i Beijing, enillodd Tracey dair medal yn y Gemau Paralympaidd yn Sydney yn 2000 a chipiodd y record Brydeinig dros 800m ym Mhencampwriaeth yr IBSA (International Blind Sports Association) yn 2001. Enillodd y fedal aur dros 400m ym Mhencampwriaeth Ryngwladol yr IPC (International Paralympic Committee) yn 2002 a'r flwyddyn ganlynol cipiodd ddwy fedal aur dros 400m a 800m ym Mhencampwriaethau Rhyngwladol yr IBSA yn Quebec. Bu ei llwyddiant yn ennill medal aur a dwy fedal arian yng Ngemau Rhyngwladol yr IBSA ym Mrasil y llynedd yn ddylanwadol wrth iddi gael ei dewis i fynd i Beijing.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales