Neidio at y cynnwys

S4C

Lleisiau'r Rhyfel Mawr

Lleisiau'r Rhyfel Mawr

Naw deg mlynedd ar ôl i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben, mae cyfres ddadlennol newydd yn adrodd profiad ysgytwol y rhyfel erchyll yng ngeiriau'r Cymry Cymraeg fu'n ymladd ar feysydd gwaedlyd Ewrop.

Mae Lleisiau'r Rhyfel Mawr yn gyfres bedair rhan sy'n dweud stori'r Rhyfel Mawr 1914-1918 trwy lythyron, dyddiaduron personol ac erthyglau papur newydd. Cafodd ei ffilmio mewn lleoliadau allweddol fel caeau Fflandrys yng Ngwlad Belg, ardal y Somme yn Ffrainc, penrhyn Gallipoli a Jerwsalem.

Fe listiodd 272,000 o fechgyn a dynion o Gymru yn y lluoedd arfog, ac mae'n debygol bod o leiaf 100,000 ohonynt yn medru'r Gymraeg. Bu farw 40,000, sef un o bob saith o'r Cymry fu'n ymladd yn y Rhyfel Mawr.

Ymhlith y gohebwyr a glywir yn y gyfres y mae dynion fel Private R Morris, Y Fflint, a oedd yng nghadoediad enwog Nadolig 1914, Tom Nefyn Williams o Ben Llŷn a fu yn Nhwrci a Gaza, William Jones Edwards, Ffair Rhos, Ceredigion o Fflandrys, John Gwynoro Thomas, Gwyddelwern, ger Corwen yn Jerwsalem a Wiliam Thomas Williams o Lanllechid a ohebai o'r meysydd yn Ffrainc. Ni ddaethant i gyd yn ôl i dystio i effaith hirdymor y rhyfel ar Gymru a'r byd.

Mae'r gyfres ddogfen hon yn ffrwyth gwaith ymchwil a ffilmio helaeth i'r cynhyrchydd a chyflwynydd Ifor ap Glyn a'i dîm yng nghwmni teledu Cwmni Da. Er mwyn adrodd stori'r Rhyfel yn Gymraeg buon nhw'n chwilio trwy archifdai, llyfrgelloedd a chasgliadau personol ledled Cymru a thu hwnt.

Trwy ddefnyddio'r ohebiaeth Gymraeg yma cawn ddarlun byw o brofiad cenhedlaeth sydd bellach bron wedi darfod o'r tir.

Eglura Ifor, "Daw llawer o'r deunydd o archifau teuluol sydd heb eu cyhoeddi o'r blaen, ond mae 'na lythyron hefyd o'r archifdai sirol a hefyd o bapurau newydd y cyfnod. Roedd 'na 25 o bapurau wythnosol Cymreig yn 1914 ac roedd hi'n arfer gan deuluoedd i anfon llythyrau a gawsant gan eu meibion yn y llinell flaen ar gyfer eu cyhoeddi yn y papur fel y gallai teuluoedd eraill o'r un ardal rannu'u newyddion.

"Mae rhai academyddion wedi dadlau na chynhyrchodd y Rhyfel Mawr lawer o lenyddiaeth fawr yn yr iaith Gymraeg, ond mae'r llythyron yma'n rhoi darlun amhrisiadwy o fywyd y milwyr a'u teuluoedd. Mae'r cyfan yn hynod deimladwy gan eu bod yn dangos dro ar ôl tro pa mor fregus oedd bywyd ar faes y gad."

Bydd llyfr yn ymddangos i gyd-fynd â'r gyfres, wedi'i gyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch. Mae'n addasiad o'r sgriptiau teledu gyda rhagor o ddeunydd gwreiddiol nad oedd modd ei gynnwys yn y gyfres. Gobaith Ifor yw y bydd y ddau yn cynnig goleuni newydd ar ryfel sydd wedi bwrw cysgod mor hir dros ein hanes a'n cymdeithas, ac efallai'n sbarduno astudiaethau pellach.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales