Neidio at y cynnwys

S4C

Lliwiau

Lliwiau

Mae baban ifanc yn gweld mewn du a gwyn. Mae coch yn cynhyrfu, a phinc yn tawelu.

Dyma rai o'r ffeithiau lliwgar bydd yr arlunydd, Osi Rhys Osmond, yn datgelu mewn cyfres drawiadol sy'n cyfuno gwyddoniaeth, seicoleg, hanes a chelf.

Yn y gyfres chwe-rhan, a saethwyd ar fformat Manylder Uwch, bydd Osi yn edrych ar sut mae lliwiau'n cael eu creu, beth yw eu hystyr mewn gwahanol ddiwylliannau, a sut mae lliw yn effeithio arnom ni.

Yn ôl Osi, yr artist o Lansteffan, "Lliw yw sylfaen fy nghrefft - trwy liw dwi'n siarad, yn mynegi fy hunan, yn cyfleu fy syniadau."

Yn ystod y gyfres bydd Osi yn darganfod fod lliw yn mynd tu hwnt i fyd celf a'i fod wedi cyffroi rhai o feddylwyr mawr y byd drwy'r oesoedd.

Bydd Osi yn mynd ar daith i geisio deall beth yn union yw lliw, ac yn cyfarfod rhai sy'n honni nad yw lliw yn bodoli o gwbl hyd yn oed!

Yng nghwmni'r Athro Gwyn Thomas bydd Osi yn darganfod fod golau a lliw wrth wraidd rhai o ddiwylliannau hyna'r byd, a bydd yr Athro Deri Tomos yn taflu goleuni ar ddylanwad lliwiau ar rai o ddarganfyddiadau mwyaf y byd gwyddonol.

Yn y rhaglen ceir cipolwg hefyd ar y modd mae anifeiliaid yn gweld lliw. Pam fod cŵn a chathod yn gweld y byd mewn glas a melyn - a gwenyn yn gweld mewn uwch-fioled?

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales