Laura Ashley oedd menyw fusnes fwyaf llwyddiannus Cymru. Yn ystod y 1970au roedd ei dillad blodeuog patrymog yn gwerthu ar draws y byd i gyd, a'i chwmni nwyddau tŷ yn gwerthu'r freuddwyd o'r bywyd cefn gwlad delfrydol.
Ond yn rhaglen ola'r gyfres Mamwlad nos Sul, 12 Chwefror, bydd Ffion Hague yn darganfod nad oedd pethau'n fêl i gyd i'r wraig fusnes a aned ym Merthyr.
"Does dim amheuaeth bod priodas Laura a Bernard yn un stormus, mae pawb yn gwybod hynny," meddai'r cofiannydd Anne Sebba, awdur 'Laura Ashley: A Life By Design', am berthynas Laura a'i gŵr oedd yn cydredeg y cwmni gyda Laura.
Roedd gan Bernard dymer ddrwg ac roedd yn mynnu clod am lwyddiant y cwmni. Er bod pawb yn gytûn mai Laura oedd yr un â'r weledigaeth fawr, fe adawodd hi i Bernard feddwl mai ef oedd y bos.
"Yn aml roedd pethau'n anodd iawn iddi am fod ganddi syniadau ffantastig, ond os oedd hi'n teimlo bod hynny yn tresbasu ar diriogaeth ei gŵr, byddai'n rhaid iddi fod yn ofalus iawn ynghylch cyflawni ei gweledigaeth," esbonia Anne.
"Ar un achlysur roedd ganddi syniad ar gyfer print newydd ac fe aeth i drafod y syniad gyda'r argraffwyr. Daeth Bernard heibio ac roedd o'n gandryll am ei fod o'n credu ei bod hi wedi ymyrryd a'i ochr ef o'r busnes ac fe dorrodd y sgrin argraffu gyda chyllell.
"Pan gafodd hi gynnig anrhydedd OBE bu'n rhaid iddi wrthod am ei bod yn gwybod na allai fyw gyda thymer Bernard petai hi'n derbyn," ychwanega Anne.
Ond pam bod Laura, gyda'i holl lwyddiant, wedi aros mewn perthynas mor gythryblus?
"Byddai llawer o ferched heddiw wedi hen adael dyn fel Bernard. Ond y gwir yw ei bod hi yn ei garu," meddai cynhyrchydd y rhaglen, Llinos Wynne. "Roedd yna berthynas arbennig rhwng y ddau a does dim amheuaeth mai partneriaeth oedd y busnes."
Mae cyn-weithwyr y cwmni yn cofio Laura gydag anwyldeb a'r un yw'r ymateb gan drigolion Dowlais, lle treuliodd Laura lawer o'i phlentyndod gyda'i mam-gu. Yn y rhaglen cawn bortread o fenyw addfwyn, gyfeillgar a charedig - personoliaeth cwbl groes i'w gŵr.
"Mae dylanwad Laura yn dal i'w weld ar Carno," meddai Llinos Wynne am y pentref yn Sir Drefaldwyn lle sefydlwyd y ffatrïoedd. "Roedd y teulu yn rhan o'r gymuned ac roedd llawer yn cyfri Laura fel ffrind, yn hytrach na bos.
"Mae'r ffaith iddi lwyddo er yr holl densiynau yn ei bywyd personol yn brawf o'r weledigaeth anhygoel oedd ganddi," ychwanega Llinos.