'Gwnewch bopeth yn Gymraeg' yw un o sloganau enwocaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Ond yn y rhifyn nesaf o Mamwlad nos Sul, 29 Ionawr, bydd Ffion Hague yn adrodd hanes Arglwyddes Llanofer, Augusta Hall, menyw ryfeddol oedd yn ymgyrchu am yr un gwerthoedd ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ymhell cyn sefydlu'r mudiad.
"Rwy'n cofio teithio drwy Gymru yn y dyddiau cyn arwyddion dwyieithog, a'r unig arwydd Cymraeg oeddwn i erioed wedi ei weld oedd 'Llythyrdy Rhyd-y-Meirch' yn Llanofer," meddai'r hanesydd John Davies. "Dyma i chi Gymraeg gweladwy, sef yr union beth yr oedd Cymdeithas yr Iaith - ganrif ar ôl Arglwyddes Llanofer - yn ymdrechu i'w hennill."
Roedd Augusta Hall hefyd yn credu'n gryf mewn addysg Gymraeg ac roedd hi'n grediniol bod rhaid dechrau'n ifanc. Defnyddiodd ei dylanwad fel noddwr ysgolion lleol i gynnwys hanner awr o wersi Cymraeg bob bore - rhywbeth unigryw yn yr ardal yn y cyfnod.
"Sicrhau lle'r Gymraeg yn yr ysgolion lleol, mynnu ar arwyddion ffordd Cymraeg, sefydlu praidd o ddefaid du Cymreig er mwyn nyddu brethyn newydd…. Mae'r rhestr o'i gweithredoedd yn ddiddiwedd, a hithau o dras aristocrataidd Seisnig," meddai Ffion Hague am Arglwyddes ystâd Llanofer, Sir Fynwy.
Roedd Augusta wedi gweld gwerth hybu'r pethau oedd yn gwneud Cymru yn wlad unigryw ac fe ddatblygodd y stad i fod yn hafan o Gymreictod. Fe gasglodd o'i chwmpas denantiaid oedd yn siarad Cymraeg ac fe adeiladodd neuadd a ddaeth yn ganolbwynt i ddigwyddiadau celfyddydol yr ardal.
"Ystâd a Neuadd Llanofer oedd canolbwynt ei byd - a hybu'r iaith Gymraeg a thraddodiadau Cymru oedd ei nod," ychwanega Ffion.
Yn Eisteddfod Genedlaethol 1834 fe enillodd y wobr gyntaf am ei thraethawd The Advantages resulting from the Preservation of the Welsh language and National Costume of Wales. Dyma oedd ei chyfle i ddweud wrth y byd am ei bwriad i hybu'r iaith a'r traddodiadau Cymraeg.
Ymhlith ei gorchestion eraill mae hyrwyddo'r Wisg Draddodiadol Gymreig a bedyddio'r Delyn Deires yn 'Delyn Gymreig', er ei bod yn dod o'r Eidal yn wreiddiol.
Mae'n ddiddorol mai menyw oedd yn byw reit ar y ffin oedd yn gwthio am y pethau yma, ac fe ymroddodd ei bywyd cyfan i'r achos.
"Yn ei thraethawd fe osododd seiliau ei bywyd: hybu'r pethe a'r traddodiadau ac yn bennaf oll gwarchod yr iaith Gymraeg. Fe lynodd hi at hynny hyd y diwedd," meddai Ffion.