Neidio at y cynnwys

S4C

Martha, Jac a Sianco a fi

Martha, Jac a Sianco a fi

Taith bersonol yr actor Ifan Huw Dafydd cyn, yn ystod ac ar ddiwedd y ffilm Martha, Jac a Sianco. Mae'r rhaglen ddogfen unigryw a phersonol yma yn rhoi cyfle i'r gwylwyr weld y broses o gyfweld, castio, ymarfer a pherfformio o safbwynt yr actor.

Trwy lygaid Ifan Huw cawn flas o'r profiad o ffilmio gwaith mor rymus â nofel Caryl Lewis. Hefyd cawn gyfraniadau gan weddill y cast, y cyfarwyddwr, yr awdur a'r cyfarwyddwr ffotograffiaeth. Gwaith camera Ifan Huw ry'n ni'n gweld yn y rhaglen a'i lais e ry'n ni'n ei glywed ac oherwydd hynny mae Martha, Jac a Sianco a Fi yn gofnod personol ac ar brydiau emosiynol iawn o'r cyfnod ffilmio yng Ngheredigion.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales