Neidio at y cynnwys

S4C

o flaen dy lygaid

Merthyr Meirionnydd

Hanes Sant John Roberts

Ddiwrnod ar ôl gwasanaeth hanesyddol ar 17 Gorffennaf 2010 yn Eglwys Gadeiriol Westminster i gofio am Sant John Roberts, bydd y rhaglen ddogfen Merthyr Meirionnydd ar S4C yn edrych ar hanes y gŵr o Drawsfynydd fu farw dros y ffydd Gatholig.

Y darlledwr Guto Harri sy'n mynd ar drywydd y mynach fu farw 400 mlynedd yn ôl gan ddarganfod bod bywyd y dyn sydd wedi'i ganoneiddio gan yr Eglwys Gatholig yn debyg i ffilm thriller.

"Dyma arwr sy'n chwarae mig gyda'r heddlu cudd, a rhwygo barrau ei gell i ddianc rhag y grocbren," meddai Guto. "Mae'n debycach i James Bond nag i sant mewn ffordd. Ac mae'r pryderon sydd tu cefn i'r hanes yn gyfoes iawn - pryderon am eithafwyr crefyddol o dramor yn bygwth holl sylfaen y wladwriaeth."

Bydd yr iaith Gymraeg yn cael ei chlywed yn swyddogol am y tro cyntaf yn Eglwys Gadeiriol Westminster pan fydd Archesgob Caergaint, Rowan Williams, yn rhoi anerchiad amdano mewn gwasanaeth arbennig.

Roedd John Roberts yn dod o deulu dylanwadol ym Meirionnydd a gobaith y teulu oedd y byddai'n dilyn gyrfa yn y gyfraith yn Llundain. Ond cefnodd ar y bywyd cyfforddus fel myfyriwr a throi at y ffydd Gatholig ar adeg pan oedd teyrngarwch i Rufain a'r Pab yn cael ei ystyried yn deyrnfradwriaeth o dan deyrnasiadau Elizabeth I a James I.

Ei freuddwyd fawr oedd gweld Lloegr a Chymru yn dychwelyd i'r ffydd Gatholig, a dychwelodd i Brydain sawl gwaith i genhadu. Cafodd ei arestio a'i garcharu ar fwy nag un achlysur trwy frâd cyd-Gatholigion a oedd yn gweithredu fel ysbïwyr ac asiantau dwbl i goron Lloegr. Ond fe lwyddodd hefyd i ddianc sawl gwaith trwy ddefnyddio ei gysylltiadau a'i ddyfeisgarwch ei hun.

Cafodd ei ddal, ei gael yn euog o deyrnfradwriaeth a'i ferthyru ym mis Rhagfyr 1610.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales