Mae gan yr actor Matthew Rhys obsesiwn gyda Chymro Cymraeg sydd wedi gadael ei farc ar ddinas Los Angeles.
Griffith Jenkins Griffith (1850 - 1919) yw'r dyn dan sylw. Fe roddodd y gŵr busnes llwyddiannus ei enw i Barc Griffith, cartref arwydd enwog Hollywood, a gadawodd ei ffortiwn i drigolion y ddinas.
Roedd Griffith yn ddyn hynod o gymhleth hefyd, a chawn ddilyn ei hanes anhygoel yn y rhaglen Mr Hollywood a Matthew Rhys nos Fercher ar S4C.
Symudodd Griffith o Bettws, ger Pen-y-bont yr Ogwr yn ŵr ifanc 16 oed yn 1866 i chwilio am fywyd newydd yn yr Unol Daleithiau. Teithiodd ar hyd a lled y wlad, o Efrog Newydd i Pennsylvania, San Francisco a Los Angeles, gan weithio fel newyddiadurwr a chael cryn lwyddiant yn mwyngloddio ac yn datblygu eiddo.
Ond yn ogystal â natur entrepreneuriaid disglair Griffith, roedd ochr dywyll i'w bersonoliaeth. Bu'n brwydro alcoholiaeth ac fe dreuliodd amser yn y carchar am saethu ei wraig yn ei hwyneb ar ôl ei chyhuddo ar gam o anffyddlondeb.
Fe dderbyniodd y ddinas y tir - Parc Griffith heddiw, ardal o lonyddwch yng nghanol berw'r ddinas.
Fel Griffith, fe ddenwyd Matthew i oleuadau llachar Hollywood bedair blynedd yn ôl ac mae bellach yn wyneb adnabyddus ar y gyfres ddrama Brothers and Sisters.
"Dwi'n aml yn ymweld â'r parc yn LA sy'n dwyn ei enw," esbonia Matthew. "Mae ei freuddwyd wedi'i gwireddu. Ewch i'r parc ar unrhyw benwythnos ac fe welwch gymysgedd fawr o bobl yn mwynhau rhodd y Cymro yma, Cymro a gododd o ddim i ennill ei ffortiwn."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales